COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT
Adroddiad Blynyddol  |  Gwybodaeth

ADRODDIADAU

ENGLISH

Nod - Mae Coed Cymru'n hyrwyddo’r broses o ddefnyddio, gwarchod a gwella coetiroedd llydanddail. Mae Swyddogion y Coetir yn rhoi help a chyngor rhad ac am ddim i berchnogion coetiroedd a defnyddwyr pren caled. Mae swyddogion wedi eu lleoli ym mhob Cyngor Sir a Pharc Cenedlaethol gyda'r Swyddfa Ganolog yn Nhregynon, ger y Drenewydd, Powys.

Mae'r cyngor wedi'i anelu at ddarparu incwm o rantiau a gwerthiant pren; pren i'w ddefnyddio ar y fferm; cysgod i dda byw ac adar hela; cynefinoedd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid; hamdden ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr; cyflogaeth mewn cymunedau gwledig.

Tarddiad - Ers i bren caled rhad wedi'i fewnforio gyrraedd Cymru yn y 19eg Ganrif, mae esgeulustod ac ysbeilio wedi peri dirywiad mewn coetiroedd llydanddail brodorol. O ardal y goedwig ol-rewlifol gwreiddiol, dim ond 3% sy'n dal i fod a choed llydanddail. Dangosodd astudiaethau yn y saithdegau hwyr a'r wythdegau cynnar nad oedd 80% o'r hyn a oedd yn weddill yn dangos adfywiad arwyddocaol; yn wir, roedd yn marw ar ei draed.

Mewn ymateb i'r argyfwng yma, daeth asiantaethau'r Llywodraeth, Awdurdodau Lleol, diwydiannau a'r sector gwirfoddol at ei gilydd yn 1985, o dan yr enw Coed Cymru, i hyrwyddo ymgyrch o ymwybyddiaeth gyhoeddus wedi'i yrru ymlaen gan swyddogion prosiect lleol a fyddai'n darparu help a chyngor rhad ac am ddim ar gyfer perchnogion coetiroedd, grwpiau cymunedol a defnyddwyr pren caled. Eu pwrpas oedd ailsefydlu traddodiadau hwsmonaeth coetir a'r defnydd o bren lleol yng Nghymru. Apwyntiwyd y cyntaf yn mis Medi 1986 ac ar hyn o bryd cyflogir 17 ar draws Cymru (gweler Tudalen Staff am enwau a rhifau ffon).

Yn wreiddiol, sefydlwyd Coed Cymru gyda chymorth grant gan y Comisiwn Cefn Gwlad. Caiff ei ariannu ar hyn o bryd gan Gomisiwn Cefn Gwlad Cymru, Y Comisiwn Coedwigaeth, Cynghorau Sir a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru ac Awdurdod Datblygu Cymru. Mae Pwyllgor Rheoli Coed Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o'r cymdeithasau yma. Caiff swyddogaethau elusennol ymchwil ac addysg eu rheoli gan fwrdd Coed Cymru Cyf, elusen nid am elw a sefydlwyd gan y partneriaid yn 1989.

Ers 1986 ysgogwyd rhyw 20,000 hectar o brosiectau rheoli coetir a phlannu coed. Mae'r rhain yn cynnwys llawer o brosiectau sydd wedi eu lleoli yn y gymuned yn ogystal a phrosiectau mawr ar dir cyhoeddus. Y cysyniad yma o siop 'un stop' am gyngor technegol a chymorth grant, gan ganolbwyntio ar arbenigedd yr holl gymdeithasau sy'n rhan ohono, yw sail Coed Cymru.

Marchnata a Hyrwyddo - Mae Coed Cymru'n weithgar yn hyrwyddo'r defnydd o bren caled lleol, a gynhyrchwyd o goetiroedd a reolir, i ailsefydlu ymarferoldeb economaidd coetiroedd llydanddail.

Mae'r holl Gynghorau Sir yng Nghymru, y Parciau Cenedlaethol a llawer o gyrff eraill yn y sector preifat a chyhoeddus bellach yn enwi pren caled o Gymru mewn prosiectau cefn gwlad ac adeiladu. Caiff Coed Cymru ei gynrychioli ymhob sioe amaethyddol flaenllaw yng Nghymru, mewn llawer o rai lleol ac hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.


Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd
Powys, SY16 3PL
Ffôn 01686 650 777