I raddau helaeth, o gymharu a thir fferm cyfagos, mae llawer o safleoedd coetir yn cael llonydd. Yn aml, mae tystiolaeth o ddefnydd y tir yn y gorffennol yn amlwg ac mae holl gynlluniau Coed Cymru'n cael eu paratoi i amddiffyn buddiannau archeolegol.
 |
 |
Mae'r ddau dy crwn 10 metr o ddiamedr yn cael eu hadeiladu ym Melin Llynnon, Llanddeusant, Ynys Mon, fel canolfan addysg a thwristiaeth, i ddangos sut y gallai adnoddau naturiol, yn enwedig coetiroedd, fod wedi cael eu defnyddio mewn cynhanes. Maen nhw'n seiliedig ar ddarganfyddiadau archeolegol sy'n dyddio o'r oes efydd hwyr neu'r oes haearn cynnar, tua 2,500 i 3,000 o flynyddoedd yn ol.
Er mwyn adeiladu un ty crwn, roedd yn cymryd tua 10 metr ciwbig o dderw, 12 metr ciwbig o onn, 2,500 metr llinol o gyll, 1,900 bwndel o gyrs dwr (mae gan 1 bwndel gylchedd o 2', 1' uwchben y bon, fel arfer wrth y cwlwm) a 10 tunnell o ddwb. Daeth yr holl ddefnyddiau, heblaw am y cyrs dwr, o Gymru.
Mae'r tai crwn yn cael eu hadeiladu gan Gyngor Cymuned Tref Alaw mewn partneriaeth a Choed Cymru a Chyngor Sir Ynys Mon, fel rhan o brosiect Cydcoed, sy'n cael ei rhedeg gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru gyda nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 |
Y cam cyntaf yn y broses o losgi golosg oedd paratoi'r aelwyd neu'r "pit". Roedd hyn yn golygu cloddio pant siap cylch lefel gwastad yn y ddaear, a oedd yn ddigon mawr ar gyfer y pren a oedd yn cael ei drawsnewid. Fe fyddai'r rheiny a oedd yn llosgi golosg yn dewis safleoedd sych ar gyfer eu haelwydydd fel y byddai'r lleithder yn y ddaear yn amsugno cyn lleied o'r gwres a phosib.
Cyfeiriwyd at aelwydydd a grewyd o'r newydd neu aelwydydd na ddefnyddiwyd ers peth amser, fel rhai "gwyrdd" ac roedden nhw'n cynhyrchu mwy o olosg pan y'u defnyddiwyd wedi iddynt sychu allan.
Yn y llun yma, mae olion aelwyd golosg hynafol.
Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd
Powys, SY16 3PL
Ffon 01686 650 777
|