COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT

TAI FFORDDIADWY - TY UNNOS



ENGLISH

Cefndir


Mae'r Ty Unnos yn hen draddodiad Cymreig, ac mae yna draddodiadau tebyg yn hanesion gwerin ardaloedd eraill o Brydain.
Wrth fynd yn ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, roedd rhai'n credu, petai person yn gallu adeiladu ty ar dir comin mewn un nos, yna roedd y tir yn eiddo iddyn nhw fel rhydd-ddaliad. Fersiynau eraill o'r traddodiad hwn oedd bod yn rhaid cael tân yn llosgi yn yr aelwyd erbyn y bore canlynol, neu y byddai'r sgwatiwr yn gallu ymestyn ei dir o amgylch y ty y pellter y gallai daflu bwyell o bedair cornel y ty.

Er nad oedd gan y Ty Unnos unrhyw statws yn ôl Cyfraith Gwlad Lloegr bryd hynny, mae yna beth traddodiad o drafodaethau cyfreithiol ynghylch y pwynt ble y byddai tir a feddiannwyd gan sgwatwyr heb deitlau yn cael ei ystyried fel eiddo cyfreithlon. Efallai fod gan y gred chwedlonol hon ryw gysylltiad ag arferion gwerin go iawn ac arferion go iawn sgwatwyr a fyddai'n llechfeddiannu tir comin neu ddiffaith. Efallai y byddai'r traddodiad wedi rhoi'r ymdeimlad i sgwatwyr fod eu gweithreded yn gyfreithlon yn ôl y cod cyfraith a oedd yn mynd law yn llaw gyda gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol.


Mae yna lefydd yng Nghymru sydd yn dai unnos yn ôl chwedlau lleol e.e. Ty Hyll yn Eryri.


Mae gan Gymru 150,000 hectar o blanhigfeydd conwydd sy'n cynhyrchu tua miliwn tunnell o brennau meddal y flwyddyn. Ar hyn o bryd, pyrwydd Sitca yw 70% o'r cynhyrchiant hwn, coed brodorol arfordir Gogledd America â'r Môr Tawel sy'n gweddu i hinsawdd orllewinol, ysgafn a thir mawnaidd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae cynhyrchwyr fframweithiau pren modern Cymru (a'r D.U.) yn defnyddio prennau meddal a mewnforiwyd oherwydd eu bod yn brennau mwy cadarn a chryf o ardaloedd sydd â hinsawdd sych ac oerach.

Mae pyrwydd Sitca yn tyfu'n araf am flynyddoedd maith. Mae pyrwydd Cymreig yn tyfu'n gyflymach ac yn cynhyrchu pren sydd â brigau trymach a cheinciau mwy o faint. Caiff y pren hwn ei brosesu ar gyfer nifer o farchnadoedd gan gynnwys ffensio, tanwydd, bwrdd sglodion a phaledi. Ond, y nwydd pwysicaf a gynhyrchir yw pren sgerbwd gradd C16, y pren gwanaf yn y categori defnydd cyffredinol.

Prin y caiff ei ddefnyddio mewn fframweithiau pren oherwydd bod gwell defnyddio graddau uwch o bren meddal a mewnforiwyd megis C24 neu TR26. Mae gan byrwydd Cymreig ychydig mwy o wendid adeileddol na phrennau meddal mewnforiedig, ac nid yw cynhyrchwyr fframweithiau pren yn ei ddefnyddio oherwydd tueddant i dwistio wrth sychu.

Ty Unnos ar gyfer y 21ain ganrif
Mae dulliau arloesol o adeiladu gyda phren yn gyffredin yn Sgandinafia, ble mae yna ddigonedd o bren o ansawdd uchel. Mae yna nifer o systemau adeiladu parod ('prefab') pren ar gael, sy'n defnyddio prennau meddal Baltig a Sgandinafaidd. Mae'r rhan fwyaf yn banelau saernïol parod. Mae'r panelau'n cael eu trafod yn fecanyddol a'u gosod at ei gilydd ar y safle, i ffurfio cragen saernïol gydag inswleiddio, gwasanaethau a chladin allanol wedi'i osod ar arwynebau allanol y muriau.

Mae'r systemau pren arloesol hyn yn dechrau cael effaith ar farchnad y Deyrnas Unedig oherwydd bod mwy a mwy o yrwyr gan y llywodraeth tuag at adeiladu oddi ar y safle. Ond, mae'r holl systemau hyn yn defnyddio prennau meddal wedi eu mewnforio, yn hytrach na phren lleol.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Wood Knowledge Wales wedi ariannu Coed Cymru, Ysgol Bensaernïaeth Cymru a Phrifysgol Cymru, Bangor, i ddatblygu system dai fforddiadwy sy'n perfformio'n uchel, ar sail priodweddau pren sy'n cael ei dyfu gartref.


Gellir defnyddio amrywiol fathau o bren yn ogystal â phyrwydd. Proses cynhyrchu y gellir ei addasu yw hon sy’n ddelfrydol ar gyfer y farchnad lafur ganolog neu fenter fechan.

Mae'r system Ty Unnos yn system adiol, fodwlar y gellir ei haddasu'n sylweddol ac mae'n gallu creu amrywiaeth o fathau o dai, a meintiau, ar sail pedwar modiwl safonol. Mae'r system yn seiliedig ar becyn syml, safonol o rannau, ar sylfaen grid 600mm sylfaenol. Mae'r system yn defnyddio pren lleol mewn hydoedd safonol, sydd ar gael yn hwylus, i greu system dai syml sy'n addas ar gyfer hunan-adeiladu neu adeiladu gyda chymorth.

Ar hyn o bryd, mae'r system Ty Unnos yn cael ei brofi, ei ddatblygu a'i fireinio trwy gyfres o brosiectau dylunio go iawn sy'n ystyried paramedrau megis perfformiad economaidd ac amgylcheddol. Fe wnaeth y diddordeb cychwynnol yn y Ty Unnos gynhyrchu nifer o brosiectau heriol gan gynnwys Dosbarth Ymchwil Amgylcheddol yng Nglyn Ebwy, Canolfan Ymwelwyr yng Nghoed Llandegla a stiwdio'r Hen Felin Llifio, Tregynon. Bydd y prosiectau hyn ar waith erbyn diwedd 2008 a byddant yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i gynorthwyo datblygiad systemau adeiladu masnachol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag David Jenkins yn Coed Cymru, 01686 650777
(Neu gweld y dudalen Staff am gyfeiriadau a rhif ffon swyddogion).