Cost tanwydd, ac yna cost yr offer, yw'r prif ffactorau i'r rhan fwyaf o bobl wrth ddewis system wresogi. Fodd bynnag, nid yw'n wastad yn hawdd cymharu gan fod gwerthoedd caloriffig gwahanol i wahanol danwydd, ac y maent yn gael eu gwerthu mewn unedau gwahanol. (t.f., litr, kWh)..
Datblygwyd y Cyfrifwr a Chymharydd Cost Gwres (drosodd) i roi dull gwrthrychol o weithio allan gost, mewn ceiniogau y kWh, gwres o amrywiaeth o danwydd ar eu pris cyfredol, a chymharu felly gost gwresogi gyda gwahanol fathau o danwydd. Dyma rai esiamplau o sefyllfaoedd lle bydd y Cyfrifwr a'r Cymharydd Cost Gwres o fantais:
- wrth ystyried newid i un tanwydd i'r llall, er enghraifft, newid i danwydd adnewyddadwy megis sglodion neu belenni coed;
- i gyflenwr pelenni a sglodion coed, helyg neu Miscanthus, i bennu pris rhesymol ar y farchnad.
FFACTORAU A YSTYRIWYD
Gwerth caloriffig y tanwydd. Mae hwn yn bwysig a gwnaed pob ymdrech i gael ffigwr gwrthrychol1..
Effeithlonrwydd y cyfarpar gwresogi. Cymerir trydan fel 100% effeithlon, tra defnyddiwyd effeithlonrwydd o 85% i bob tanwydd arall. Gall bwyleri sglodion fod ag effeithlonrwydd is; gall bwyleri a ffyrnau anthracit weithiau fod yn is o lawer; gall bwyleri olew modern gyrraedd effeithlonrwydd o hyd at 97%.
Er mai yn ol yr awr kilowat y gwerthir nwy, ni fydd yr offer yn 100% effeithlon, sy'n esbonio'r angen am golofn ar wahan ar y siart. Os gwyddoch effeithlonrwydd eich offer, yna lluoswch bris y tanwydd a'r canran effeithlonrwydd, rhannu ag 85 yna defnyddio'r pris newydd hwn yn y cymharydd. Ar y llaw arall, wedi cael pris am danwydd arall, lluoswch ef ag 85 yna rhannu ag effeithlonrwydd yr offer.
Cynnwys lleithder pren. . Mae'r Cyfrifwr a Chymharydd Cost Gwres yn defnyddio gwerth o 55% cynnwys dwr (yn ol pwysau). Mae cynnwys lleithder yn amrywio llawer; gall fod hyd yn oed yn uwch mewn pyrwydd lleol ir, tra bod pren caled yn dueddol o fod yn is. Os oes cynnwys lleithder gwahanol i'ch cyflenwad pren, yna defnyddiwch Fformiwla 1 (isod) i gael y gost mewn ceiniogau y kWh, gan ragdybio effeithlonrwydd offer o 85%. Neu, i gael pris y d.f. o geiniogau y kWh defnyddiwch Fformiwla 2.
|
Formula 1 |
|
|
Formula 2 |
|
|
Pence / kWh = |
Actual £ / tonne
45.42 - 0.52M
(where M is the % water by weight) |
|
£ / tonne = |
Actual p / kWh x (45.42 - 0.52M)
(where M is the % water by weight) |
FFACTORAU NAS YSTYRIWYD
Cost prynu, gosod neu gynnal cyfarpar gwresogi. i rai mathau o danwydd adnewyddol, gall hyn fod yn uchel iawn.
ALIGN="JUSTIFY">Er y gwnaed pob ymdrech wrth baratoi'r siart hon, dylid ei chymryd fel canllaw yn unig. Cynghorir y sawl sydd am wneud penderfyniadau ariannol am brisiau tanwydd i gael cadarnhad annibynnol.
1
Ar gyfer olew gwresogi,, y ffigwr a ddefnyddir yw 12.83 kWh/kg olew (Senedd y DG, Pwyllgor Dethol ar Bumed Adroddiad Archwiliad Amgylcheddol, Atodiad i Atodiad 1)Mae hyn yn trosi yn 10.27 kWh/litr, cyfartaledd a seilir ar y dwysedd a roddir gan gyflenwyr olew. Ceir tystiolaeth ateglo ar wefan yn Adran Fasnach a Diwydian (www.dti.gov.uk) ‘Amcangyfrif o werthoedd caloriffig cyfartalog gros tanwydd yn 2002’, y Carbon Trust (www.thecarbontrust.co.uk/foundation/0301prot.html) er nad yw'n eglur pa un yw'r olew gwresogi domestig. Mae EnTech Ymgynghorwyr Ynni Cyf(www.entech.co.uk/entech/ener_conv.htm) yn rhoi ffigwr sydd fymryn yn is o 12.778 kWh y kg neu 10.22kWh/litr provide a slightly lower figure of 12.778 kWh per kg or 10.22kWh/litre.
Ar gyfer pren sych gan gynnws pelenni, y ffigwr a ddefnyddir yw 5.36 kg. Seiliwd hyn ar wybodaeth o wefan yr AFD a ddyfynnwyd uchod, The Carbon Trust, op cit; British Biogen; safle we tech TP. com/wood; Jannesch, R. Canada, gwelerwww.reap.ca For anthracit y ffigwr yw 9.42 kWh/kg o wefan yr AFD op cit.
For LPG op cit
.
Sut i ddefnyddio’r Cymharydd
- Ceisiwch y pris yr ydych yn dalu am y tanwydd (mewn ceiniogau y litr neu £ y d.f.) ar y golofn danwydd briodol.
- Symudwch yn llorweddol i'r golofn las tywyll a darllen cost y gwres mewn ceiniogau y kWh.
- Ewch ymlaen yn llorweddol i gael cost cyfatebol tanwydd gwahanol. Sut mae’r pris hwn yn cymharu a phris y tanwydd hwnnw ar y farchnad? Ddylech chi ystyried newid?
Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd
Powys, SY16 3PL
Ffôn 01686 650 777
|