COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT
Adroddiad Blynyddol  |  Gwybodaeth

Cynllun Ardystio Grwpiau Coed Cymru
Cyflwyniad i Gynllun Ardystio Grwpiau Coed Cymru

ENGLISH

Gwelir fwy a mwy bod y farchnad bren yn gofyn am sicrwydd ynghylch ansawdd ac effeithiau amgylcheddol rheolaeth coedwigoedd. Un ffordd o ddarparu'r sicrwydd hwn yw trwy ddilysu annibynnol yn erbyn safon wedi'i chyhoeddi, sy'n diffinio rheolaeth addas ac effeithiol. Ym maes coedwigaeth, gelwir y broses hon, yn eang, yn ardystiad coedwigaeth.

Mae safon ardystio Cynllun Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS) yn gosod y gofynion y gall perchnogion coetiroedd a choedwigoedd a chyrff ardystio coedwigoedd eu defnyddio i ardystio rheolaeth coetiroedd a choedwigoedd.

Dyma'r mudiadau sy'n gysylltiedig â'r ardystio:



Er mwyn i goetir ennill ardystiad, mae angen ei archwilio yn erbyn y safon UKWAS. Rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau y caiff ein cynllun ei rhedeg yn unol â rheolau perthnasol. Rydych chi, fel aelod o'r cynllun, yn gyfrifol am sicrhau bod eich coed yn cwrdd â'r safon UKWAS.

Ond, fel rhan o'n rheolaeth coetiroedd rheolaidd, parhaus, fe fyddwn yn gallu eich helpu i wneud hyn fel rhan o'r gwasanaeth rheoli coetiroedd arferol. Fel arfer, er mwyn cael ardystiad, fe fyddech yn talu i benodi eich archwilwyr eich hun ac mewn coetiroedd llai, gydag allbwn pren isel, efallai na fydd y gost ar gyfer gwneud hyn yn ymarferol. Mae Cynllun Grwp Coed Cymru ar gael, heb unrhyw gost, i bob perchennog coetir sy'n cwrdd â'r meini prawf ar gyfer cymorth rheoli coetiroedd gan Coed Cymru.

Os ydych yn penderfynu cofrestru gyda'r cynllun, fe fydd Coed Cymru yn gwneud Archwiliad Cychwynnol ar eich safle. Fe fydd hyn yn cymryd hyd at 2 awr, a'r diben fydd asesu pa mor debygol ydyw y bydd y coetir yn ennill safon UKWAS. Os oes angen unrhyw waith yn y coetir, fe fydd hyn yn cael ei nodi adeg yr archwiliad. Yn aml, gwaith bach yw hyn ac ni fydd yn eich atal rhag cofrestru gyda'r cynllun tra caiff ei wneud o fewn amser rhesymol. Fe fydd Coed Cymru hefyd yn dewis sampl o safleoedd bob blwyddyn ar gyfer archwiliad mewnol blynyddol. Fe fydd fformat yr archwiliad hwn yn debyg i'r archwiliad cychwynnol. Bob blwyddyn, caiff Coed Cymru ei archwilio gan ein harchwilydd allanol, sef SGS ar hyn o bryd, ac eto ymwelir â sampl o safleoedd.

Unwaith y bydd coetir wedi cofrestru i gael ardystiad, gellir defnyddio ein rhif grwp i werthu pren crwn. Mae Coed Cymru yn gweithredu ardystiad ‘rheoli coetiroedd’ yn unig. Mae hyn yn golygu y gellir gwerthu pren crwn yn gyffredinol fel pren sydd wedi ei ardystio fel ‘FSC Certified’ hyd at y pwynt gwerthu cyntaf. Fe fydd unrhyw brosesu, prynu neu gymysgu pellach i'r pren angen ardystiad ‘Cadwyn Cystodaeth'.


Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd
Powys, SY16 3PL
Ffôn 01686 650 777