COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT
Rheolaeth  |  Coed Feithrin  |  FSC  |  Hamdden  |  Bioamrywiaeth  |  Archeoleg

COETIROEDD

ENGLISH

Mae 123,000 hectar o goetir llydanddail yng Nghymru. Dynodir 34,413 fel 'Coetir Hynafol Lled-naturiol' dynodedig, un o'n cynefinoedd mwyaf amrywiol a phwysig. Ers 1985 5,854 paratowyd Cynlluniau Rheoli Coetir gan Goed Cymru yn cwmpasu 23,035 hectar o goetir, 19% o'r cyfanswm yng Nghymru.


Ers 1985 mae Coed Cymru wedi cefnogi system o reoli coetir sy'n fwy tebyg i arfer Cyfandirol na choedwigaeth Brydeinig yr 20fed Ganrif. Ar ol 20 mlynedd mae'r newidiadau welwyd ar filoedd o safleoedd wedi cyfiawnhau'r penderfyniadau cynnar hynny. O ddiddordeb penodol yw'r defnydd o'r dechneg hon i adfer coed llydanddail i blanhigfeydd conwydd ar safleoedd coetiroedd hynafol (PAWS). Er yn wreiddiol yn ddadleuol, profodd ein hagwedd yn dra effeithiol a bellach fe'i defnyddir yn eang mewn coedwigaeth gyhoeddus a phreifat. Manteision y trawsnewid graddol hwn yw:-

  • Lleihad mewn cystadleuaeth oddi wrth arloeswyr y tir agored
  • Cadw'r haenen gwasarn
  • Cynhyrchu pren yn barhaus
  • Costau gostyngol.
  • Mwy o allu i wrthsefyll difrod stormydd a phlau pryfed a ffyngau.

  • Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
    Tregynon, Y Drenewydd
    Ffôn 01686 650 777