 |
Cydrannau
 |
Mae dulliau arloesol o adeiladu gyda phren yn gyffredin yn Sgandinafia, ble mae yna ddigonedd o bren o ansawdd uchel. Mae yna nifer o systemau adeiladu parod ('prefab') pren ar gael, sy'n defnyddio prennau meddal Baltig a Sgandinafaidd. Mae'r rhan fwyaf yn banelau saernïol parod sydd weithiau yn cael eu gadael yn agored ar gyfer y gorffeniad mewnol wrth ddefnyddio amrywiol fathau o lamineiddio ac uniadu rhwng hydoedd byr a rhannau o brennau meddal C16, C24 neu TR26 megis pyrwydd neu binwydd. Yn gyffredinol, mae'r panelau yn ddarnau mur cyfan gyda ffenestri a drysau wedi'u torri yn barod ynddynt. Mae'r panelau'n cael eu trafod yn fecanyddol a'u gosod at ei gilydd ar y safle, i ffurfio cragen saernïol gydag inswleiddio, gwasanaethau a chladin allanol wedi'i osod ar arwynebau allanol y muriau.
Cydnabuwyd nad oedd modd defnyddio prennau meddal sy'n cael eu tyfu gartref. Os caiff system ei fabwysiadu, byddai angen sefydlogi'r prif gydrannau saernïol a gwaredu'r angen am dulathau cypledig confensiynol. Byddai hyn yn gofyn am symud radical oddi wrth arferion presennol.
Awgrymwyd system fodwlar yn seiliedig ar fframiau porthol wedi'u lamineiddio gyda phanelau pren haenog ar sylfaen concrit parod fel model posibl.
Roedd gwaith cynnar Coed Cymru a Cowley Timberwork wedi canolbwyntio ar greu blwchdoriadau o blanciau pyrwydd llydan wedi'u ffurfio mewn siâp bocs gwag gan ddefnyddio uniadau rhigol ysgwydd. Mae cynhyrchu trawstiau bocs yn broses gyflymach a symlach na lamineiddio. Mae'r strwythur canlyniadol yn ysgafn ond mae'n hynod o gryf ac yn hawdd i'w godi ar sylfeini syml. Mae'r Ty Unnos yn adeilad cyfan sy'n cynnwys ffrâm, amlen yr adeilad, gorffeniadau a gosodiadau.
Panelau Mewnlenwi
Cynhyrchwyd y system wreiddiol fel system lawn o gydrannau mewnlenwi wedi'u seilio ar flwchdoriad pyrwydd Sitca fel y defnyddir yn y cydrannau saernïol. Bydd y blwchdoriadau hyn yn gwneud lle am y lloriau, muriau a'r to drwy eu gosod rhwng y pyrth saernïol. Yna, byddai'r blwchdoriad yn cael ei lenwi gan ddeunydd inswleiddio naturiol lleol megis cywarch, gwlân defaid neu Warmcell. Bydd hyn yn creu system gydrannol llawn a fydd yn cyfuno cynhyrchiant technoleg isel â'r galw am adeiladu cyflym a gwerthoedd inswleiddio cymaint â 0.15W/m2k. Mae prototeip wedi awgrymu y gellir gwneud y broses hon yn fwy effeithlon wrth ddatblygu system banelu mwy o faint sy'n gweithio ar ddimensiwn cydrannol 600mm.
Mae'r ddwy system sy'n cael eu hystyried yn cynnwys system bren gyfan a ddefnyddir trawst ysgol pyrwydd adran fach gyda phlanciau pren solet yn fewnol ac allanol, a system OSB (Oriented Strand Board) sy'n defnyddio'r un ysgol pyrwydd adran fach wedi'i frechdanu rhwng dwy haen o OSB Albanaidd. Mae’r ddwy system yn cyfuno prosesau technoleg isel ac maent yn hybu diwydiannau cynhyrchu paledi lleol sy'n inswleiddio'n dda gyda deunydd naturiol lleol.
Tra bod cydrannau OSB yn haws i'w cynhyrchu, caiff eu hystyried yn llai cynaliadwy oherwydd eu deunyddiau a'r pellter sydd angen eu cludo. Felly, nid yw hyn yn ateb egwyddorion y prosiect Ty Unnos. Hefyd, mae gan banelau pyrwydd Sitca eu manteision megis mwy o hyblygrwydd a gorffeniadau mewnol lle bo modd. Mae ymchwil gwreiddiol yn awgrymu bod y ddwy system gyda dimensiwn ceudod rhwng 200 a 250mm yn gallu inswleiddio cymaint â 0.15W/m2k pan gânt eu stwffio neu'u chwistrellu gan ddeunydd megis cywarch, gwlân defaid neu Warmcell.
Mae Coed Cymru wedi dechrau datblygu cydrannau ychwanegol megis casetiau ar gyfer ffenestri a drysau. Bydd hyn yn integreiddio ffenestr bren galed wedi'i lamineiddio sydd eisoes yn cael ei gynhyrchu.
Coed Cymru,Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd,
Powys SY16 3PL
Ffôn 01686 650 777
|
 |
|