NADDION AR GYFER GWELLTACH ANIFEILIAID A CHOMPOSTIO
Mae'r defnydd o wastraff pren mewn fwelyau anifeiliaid yn eang. Gwerthir naddion pren meddal sych fel gwelyau ceffylau mewn bagiau ac mae hon yn farchnad broffiadiol ar gyfer cynnyrch arbenigol. Defnyddir llwch llif pren meddal weithiau mewn ciwbiglau buchod lle defnyddir pympiau i drosglwyddo'r slyri. Defnyddir sglodion mawr, hyd at 10cm mewn diamedr mewn corlannau awyr agored ar gyfer gwartheg, ond mae pryder cynyddol fod y system hon yn llygru dwr daear. Defnyddir pilion rhisgl weithiau fel gwelyau, ond nid ydynt yn amsugno'n dda iawn.
Mae'r daflen wybodaeth hon yn ymdrin a'r defnydd o sglodion pren sych fel dewis arall yn lle gwellt o dan ddefaid a gwartheg sydd mewn siediau. Mae wedi ei seilio ar brofiad pum mlynedd gan grwp Ffermwyr Pontbren sy'n berchan ar beiriant malu coed Farmi, ac yn ei ddefnyddio. Mae'r Grwp yn defnyddio pren caled sych sydd wedi cael ei sychu am o leiaf chwe mis cyn ei falu. Y brif ffynhonnell ar gyfer y coed yw gwaith adfer coetiroedd a gwrychoedd, ond defnyddir peth gwastraff melinau llifio ar ffurf coed slab hefyd.
Mae'r peiriant malu coed wedi ei osod i gynhyrchu sglodion tua 3cm - maint stamp. Yn y lle cyntaf, mae sglodion pren wedi eu gwasgaru ar draws lawr y sied i drwch o 10cm. Ychwanegir tua 5cm at hwn wedyn bob 7 - 10 diwrnod ar gyfer defaid ar fwyd sych , neu bob 2-3 diwrnod ar gyfer gwartheg ar silwair: Mae hyn yn llawer llai aml nac sydd ei angen gyda gwellt, ac felly mae’n lleihau costau llafur.
Mae ffermwyr sy'n defnyddio'r system wedi bod yn hapus gyda'r canlyniadau o gymharu a gwellt. Mae'r sglodion pren yn llai llafur-ddwys ac mae'r da byw yn aros on lan gyda llai o achosion o broblemau traed a llai o angen clipio boliau wyn cyn eu hanfon i'r lladd-dy. Mae ymchwil yng Ngholeg Llysfasi wedi dangos bod gan anifeiliad ar wely sglodion pren yr yun cyfraddau tyfu'r rhai a gedwir ar wellt.
Ni wnaethpwyd costiadau manwl ym Mhontbren, ond rhaid ystyried yr amrywiadau mawr ym mhris gwellt, o gymharu a phris cymharol sefydlog gwastraff coed. Mae costau dangosol o waith a wnaethpwyd gan ADAS yn awgrymu bod sglodion yn gweithio allan tua £43 y dunnell.
Nid oes angel trin gymaint ar sglodion coed fel gyda gwellt oherwydd bydd a da byw yn symud y deunydd o gwmpas gyda'u traed, gan olygu nad oes raid iddo gael ei wasgaru mor drwyadl a gwely gwellt.
Ystyriaeth arall wrth ddewis deunydd gwely yw o le daw'r deunydd. Caiff y rhan fwyaf o'r gwellt a ddefnyddir fel gwely anifeiliaid yng Nghymru ei few forio o Loegr. Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer cost, economi Cymru a'r amgylchedd hefyd oherwydd y pellteroedd clud hir dan sylw.
Pen dynnir y gwely sglodion coed sydd wedi baeddu, mae'n compostio'n gyflym ac ar dymheredd uchel. Mae'r compost wedi cael ei ail ddefnyddio fel gwely ac fel cyfrwng tyfu ar gyfer eginblanhigion coed ym meithrinfda goed Pontbren. Mae'r gallu I ailddefnyddio'r deunydd a gompostiwyd yn arbennig o ddeniadol. Peth da yw talu unwaith am wely y gellir ei defnyddio ddwywaith neu deirgwaith heb gost ychwanegol!
Mae ADAS wedi dadansoddi ymhellach y deunydd a gompostiwyd. Mae canlyniadau'n awgrymu fod ganddo botensial fel gwellhawr pridd neu gyfrwng tyfu (ffrwythlon ian). Mae'r compost yn sych, yn lan a heb chwyn na phathogenau oherwydd ei dymheredd uchel wrth gompostio. Mae'n haws ei storio a'i drin na gwrtaith wedi'i seilio ar wellt. Ar adeg y dadansoddiad (2004), ystyriwd y deunydd yn addas ar gyfer cnydau gyda statws organig. Mewn ystyriaethau eraill, gwrtaith buarth wedi'i gompostio yw'r deunydd.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag David Jenkins yn Coed Cymru, 01686 650777
(Neu gweld y dudalen Staff am gyfeiriadau a rhif ffon swyddogion).
Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd
Powys, SY16 3PL
Ffon 01686 650 777
|