COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT
Sychu Coed  |  Priddoedd a dwr |  Egni Pren |  Gneud Pelenni |  Cymharydd Cost |  Compost |  Trin Pren gyda Gwres|  Ty Unnos| 

SYCHU COEDBREN A WNAED O LOGIAU GYDA TRAWSFESURIAD BYCHAIN

ENGLISH

Mae nifer o dasgau a chamau y mae'n orfodol glynu wrthynt yn ofalus, pan yn sychu coed sydd wedi ei dorri allan o logiau o drawsfesuriadau bychain, gan fod tueddiad i'r pren ddychwelyd i'w siap gwreiddiol os gadewir iddo.

Dylid dechrau ar y gwaith 'sticio' mor agos a phosib i'r pennau. Bydd hyn yn gwrthsefyll 'cwpanu' (lle bo'r estyll neu'r planciau yn crychu neu'n cyrlio); digwyddiad sy'n gyffredin gyda choedbren wedi ei wneud o logiau o ddiamedrau bychain. Dylid gosod y gwiail-goed (y mae'n rhaid iddynt fod yn sych, i arbed staenio'r pren) bob rhyw 12 modfedd.

Dylid dechrau ar y 'rhwymo' hefyd mor agos a posib i'r pennau, gyda dim mwy na 24 modfedd (cynghorir bwlch o lai na hynny) rhwng y rhwymynnau neu'r bandiau.
Lle bo'n bosib, gwarchodwch y staciau rhag eithafion tywydd (haul a glaw), tra'n caniatau i'r gwynt amgylchu drwy bob stac (mae 'llen-ochr' fel yr un a ddarlunir, yn ddelfrydol i'r broses yma). Bydd y camau rhagofal yma'n cynyddu'n sylweddol y canran o goedbren a fydd yn addas ar gyfer cymal nesaf y broses, sef yr odyn-sychu.

Odyn-sychu
Mae'r odynau sychu ar gael mewn sawl ffurf a siap; o'r adeiladau brics diben-benodol i'r cefn 'faniau pastai' inswleiddiedig. Fodd bynnag, mae amryw o nodweddion sy'n hanfodol wrth adeiladu odyn effeithiol, yn neilltuol felly yn achos odyn sy'n gweithio ar yr egwyddor 'gwresogi ac awyru' sef y dull y mae Coed Cymru wedi profi ei fod yn dra effeithiol, yn arbennig gyda choedbren sydd wedi deillio o logiau o dryfesurau bychain.

Allwch chi ddim cael gormod o inswleiddiad, oddi tanodd, uwchben, ac o amgylch eich coedbren. Mae hyn yn helpu i sefydlogi a chynnal tymheredd mewnol yr odyn sy'n hanfodol gyda'r math neilltuol yma o bren; ac mae'n arbed ynni ac arian!

Peidiwch a rhoi'r coedbren i mewn tra bo cynhwysedd y lleithder yn rhy uchel! Mae pren ag iddo gynhwysedd lleithder a fo'n uwch na 30% yn 'rhy wyrdd'.

Banded Timber Cadwch y coedbren naill ai wedi ei rwymo'n dynn neu wedi ei wasgu'n dynn dan bwysau, i atal unrhyw symud tra ei fod yn sychu yn yr odyn.

Sicrhewch na fedr yr aer amgylchynol ond cylchlifo rhwng yr estyll! Nid o dan y paledi, na heibio pennau'r das [stac] na thros ben y das! Llenwch i mewn unrhyw fylchau a allai adael i gylchlifiad yr aer gymryd y trywydd hwylusaf yn hytrach na'r trywydd-ffordd y bwriedir iddo ei gymryd. Gyrrwch yr aer amgylchedig ar draws yr arwynebau dinoethedig rydych chi am eu sychu, ac nid i unman arall!

Heat and Vent Kiln Dylid cynnal y tymheredd (a reolir gan y gwres-reolydd mor agos a phosib i 30 C. Dylid gosod lefel lleithder yr odyn (a reolir gan y lleithder-reolydd ar leithder cymharol o 55%.

Bydd 'cist' neu focs wedi ei wneud allan o shitenau 8' x 4' o bren haenog neu OSB yn cynhyrchu odyn syml ag iddo gynhwyster o 60 tr. ciwbig; o gymryd i ystyriaeth y gofod ar gyfer poeth-haearn y gwresogydd, gwyntyllau [ffaniau] amgylchynu'r awyr, ac ati. O dynnu i ffwrdd y gofod a gymerir gan y gwiail gwahanu, gall yr odyn sychu hyd at oddeutu 1.3 metr ciwbig (1.5 tunnell) ar gyfartaledd, bob tro y'i defnyddir. Digon i gadw un saer coed yn brysur am o leiaf wythnos!

Fel y gwelir yn y darlun, gellir defnyddio pen uchaf yr odyn fel mainc waith ar gyfer gwaith peiriannu neu waith gludo, gyda'r fantais ychwanegol bod aer gynnes yn allyrru o'r odyn i gynhesu'r gweithdy! Kiln
Gweithrediad

Llwythwch yr odyn gyda chymaint o goedbren ag y bo'n bosib, a blociwch bob gofod awyrol, ar wahan i'r blychau rhwng yr estyll sydd wedi eu stacio ar ben ei gilydd. Dechreuwch y ffaniau awyru (switsiwch hwy ymlaen) a chaewch y drws. Bydd poeth-haearnau'r gwresogydd (neu ffynhonnell y gwres) yn cyflym godi'r gwres y tu fewn i'r odyn uwchben tymheredd yr aer cwmpasol [ambient]; a bydd hynny'n peri i'r coedbren 'chwysu' ei leithder gormodol ymaith i'r aer amredol [cwmpasol], gan achosi codiad yng nghyfaint y lleithder. Bydd lefel uwch o leithder yn cael ei synhwyro gan y lleithder-fesurydd, a phan fo'r lefel yn codi'n uwch na'r ffigwr rhagbenodol (55% yn yr achos yma), mae'n clicedu swits sy'n troi ymlaen y ffan, a bydd honno wrth droi yn tynnu'r aer sy'n drwm gyda lleithder, allan o'r odyn i atmosffer yr awyrgylch (gan gynhesu'r gweithdy!). Dan effaith seiffon, sugnir awyr annhwymedig o'r awyrgylch i mewn i'r odyn drwy'r mewndwll, i ddisodli'r awyr a allyrrwyd ohoni. Wrth i'r awyr yma, sy'n gymharol sychach ac oerach, deithio dros arwyneb poeth-haearn y gwresogydd, bydd ei dymheredd yn codi, gan gwblhau'r cylchred. Mae tablau ar gael at weithio allan ganran cynhwysedd lleithder (% M.C. moisture content) y coedbren, trwy ddarllen yn eu herbyn ffigurau'r gwres a'r lleithder o fewn yr odyn. Ar dymheredd o 30°C a lleithder cymharol (R.H. relative humidity) o 55%, dylai'r pren fod wedi ei sychu hyd at gynhwysedd lleithder o 10% (+/- 2%), gan fod felly yn barod at ei ddefnyddio yng ngweithdy'r saer.