 |
Canllaw bras i gyfrifo cost gwresogi pan fyddwch yn prynu boncyffion
Mae llawer o bobl yn defnyddio boncyffion i ddarparu o leiaf cyfran o'r gwres yn eu cartrefi. Tra bod modd cael peth yn rhad ac am ddim, yn aml mae angen prynu cyflenwadau gan werthwr coed tân lleol. Mae hyn yn dueddol o fod mewn ffordd gweddol anffurfiol, fesul llwyth trelar neu sach, ac weithiau fesul tunnell. Mae'r lleithder yn y coed yn medru amrywio, rhwng 20 a 50% o gyfanswm y pwysau, ac mae prennau caled yn medru bod yn llawer mwy dwys na phrennau meddal, ac felly mae'n anodd gwybod faint o ynni fyddwch chi'n ei brynu gyda phob llwyth.
Diben y daflen hon yw cynnig ffordd o:
gyfrifo faint o danwydd sydd mewn llwyth o foncyffion
amcangyfrif cost y gwres sy'n cael ei drosglwyddo gan y stof neu'r boeler.
Efallai y bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol, fel ffordd i'r cwsmer sy'n meddwl am y gost i ddeall yr hyn y mae'n ei gael gan wahanol gyflenwyr ac i fedru cymharu gwahanol danwyddau gwresogi. Mae'r gwerthwr, hefyd, yn gallu ei defnyddio i gyfrifo faint o bren y maen ei ddosbarthu.
Nid yw'r cyfrifiadau'n rhai syml, oherwydd y symiau mawr o leithder sy'n medru bod mewn pren. Mae hyn yn ychwanegu at y pwysau, ac yn gostwng yr ynni sydd ar gael i'w ddefnyddio'n sylweddol, am fod hyd at 20% yn cael ei ddefnyddio i anweddu'r dwr.
Mae pwysau metr ciwbig o foncyffion hollt sydd wedi'u trefnu ar hap (fel maen nhw'n dod fel arfer) yn dibynnu ar y cynnwys lleithder ac mae hefyd yn dibynnu ai pren caled neu bren meddal ydyw. (Gweler Atodiad 1)
|
Cynnwys lleithder (% Sylfaen Wlyb)
|
Pren Caled Pwysau 1m³ o Foncyffion Hollt (Tunelli) |
Pren Caled Energy MWh per m³ |
Pren Meddal Pwysau 1m³ o foncyffion Hollt(tunelli) |
Pren Meddal Egni MWh y m³ |
0 (sychu mewn ffwrn) 20 (sychu ag aer) 30
40 50 (newydd gael eu cwympo)
|
0.28 0.35 0.40 0.47 0.56 |
1.41 1.35 1.32 1.27 1.20 |
0.16 0.20 0.23 0.27 0.32 |
0.80 0.77 0.76 0.73 0.68 |
Mae'r cynnwys lleithder, fesul pwysau, yn medru amrywio o 20% (sydd ddim yn gyffredin iawn) hyd at dros 50%. Yn anffodus, mae'n anodd gwybod beth yw'r union gynnwys lleithder heb fesurydd lleithder, neu heb sychu a phwyso rhai o'r boncyffion, ac felly fe fydd defnyddio 30-40% fel amcan yn gwneud y tro, ond efallai y bydd y gwerthwr yn medru dweud pa mor hir y bu ers cwympo'r coed. Fe'ch cynghorir i bentyrru'r boncyffion a'u sychu yn yr aer cyhyd ag sy'n bosib (blwyddyn neu fwy) wedi eu derbyn, er mwyn gwella ansawdd y llosgi.
Os ydych yn cael coed tan wrth y llwyth trelar, fe fydd angen gwybod cyfaint y trelar er mwyn cyfrifo pwysau pob llwyth. Felly, os ydych chi'n cael llwyth trelar sy'n 1.5m3 o foncyffion, gyda chynnwys lleithder o 30% ac mae'n costio £51, cost 1 tunnell o foncyffion yw:
|
| Cost y llwyth o foncyffion (£51) = £85/tonne (£51) |
Cyfaint y llwyth (1.5m3) x 0.4 )o'r tabl, colofn 2,ar gyfer 30% lleithder) |
[Efallai bod y mas solid o bren sych mewn 1m3 o foncyffion rhydd yn ymddangos yn weddol isel, yn enwedig os oedd y cwsmer yn credu ei fod yn derbyn hanner tunnell neu hyd yn oed tunnell.]
Dangosir cyfanswm y gwres sydd ar gael o 1m3 o foncyffion rhydd hefyd yn y tabl, gan gymryd bod 1kg o bren sych cyfwerth a 5.36kW awr a thynnu'r gwres a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anweddu dwr hylosgi a dwr rhydd.
Fe fydd amcangyfrif cost y gwres a geir, mewn gwirionedd, o'r coed tan, yn dibynnu, i raddau helaeth, ar effeithlonrwydd y cyfarpar gwresogi, h.y. faint o wres sy'n cael ei drosglwyddo i ystafell neu i ddwr poeth boeler. Dyma faes anodd i stofiau sy'n llosgi boncyffion ac nid yw'n hawdd gwybod faint o wres sy'n mynd i fyny'r simnai a faint sy'n mynd i'r ystafell. Gyda thanau agored, mae'r effeithlonrwydd yn medru bod mor isel a 35% ond gyda rhai stofiau sydd wedi eu cynllunio'n dda, mae'n medru bod dros 70% o dan amodau optimaidd. Efallai y bydd y gwneuthurwr yn medru helpu, ond byddwch yn ofalus nad ydyw eu ffigwr yn cyfeirio at yr effeithlonrwydd hylosgi yn unig. Mae boeleri boncyffion sydd wedi eu hadeiladu’n arbennig at y diben, yn medru bod yn soffistigedig iawn ac efallai y bydd y gwneuthurwr yn medru darparu gwybodaeth ddibynadwy. Cofiwch y bydd cynnwys lleithder uchel yn gostwng yr effeithlonrwydd yn sylweddol.
Datblygwyd y fformwla ganlynol o'r daenlen a ddefnyddiwyd ar gyfer Cymharydd Cost Gwres Coed Cymru (gweler www.coedcymru.org.uk). Mae'n rhoi cost gwres mewn ceiniogau fesul kW awr o wres a drosglwyddir, ar sail prisiau boncyffion a geir gan werthwr (£/tunnell), ar gyfer cynnwys lleithder o wahanol lefelau, ac ar gyfer cyfarpar o wahanol effeithlonrwydd. Cymerir mai gwerth caloriffig absoliwt pren a sychwyd mewn ffwrn yw 5.36kW awr/kg
Cyfrifwch y pris fesul tunnell o'r tabl cyntaf. Yna, defnyddiwch y fformwla ganlynol:
|
|
| Ceiniog/kWh = C(o'r table) x £/tunnell |
.
Cynnwys lleithder coed %
| C
|
10 20 30 40 50
|
2.25 2.58 3.01 3.66 4.67 |
Er enghraifft:
O'r tabl cyntaf, mae 1 metr ciwbig o bren caled gyda chynnwys lleithder o 30% sy'n costio £34, gyfwerth a 0.4 tunnell neu £85/tunnell. Os yw'r stof yn trosglwyddo gwres gyda chyfradd effeithlonrwydd o 60% yna cost y gwres yw:
| |
| 3.01 x £85 = 4.3 ceiniog/kWh |
| | | 60% |
I gymharu, ar hyn o bryd mae gwres trydanol yn costio dros 10c/kW awr ac mae gwres o foeler olew ag effeithlonrwydd o 85% yn costio tua 3.5c/kW awr. I'r person sy'n eu gwerthu, mae cynhyrchu boncyffion coed tân a'u gwerthu mewn llwythi bach yn drwm o ran llafur ac yn gymharol gostus. I'r cwsmer, efallai nad ydyw boncyffion, mewn gwirionedd, yn ffynhonnell wres rhad, ond mae stof foncyffion yn medru bod yn nodwedd ddeniadol yn y cartref, yn aml mae yna gyfle i gael hyd i goed tân rhad ac am ddim a dylai tanwydd pren fod yn gynaliadwy'n amgylcheddol ac fe fydd yn disodli allyriannau carbon o danwydd ffosil. Dylai fod gan foeler boncyffion modern effeithlonrwydd llawer gwell, a dylai rhedeg am fwy o amser heb sylw, ond fe fydd y gwariant cychwynnol yn uwch.
|
Atodiad 1. Y fethodoleg ar gyfer pennu pwysau boncyffion hollt fesul metr ciwbig. Amcangyfrifwyd bod cynnwys mas solid boncyffion rhydd o gymharu a phren solid yn 0.45 (o 'Purchase and Sale of Wood for Energy Production' yn 'Technology - Environ - Economy, Centre for Biomass Technology’ (Denmarc) 2002. ISBN 87-90074-28-9). Mae hyn yn weddol debyg i'r ffigurau yn www.woodfuelwales.org.uk a www.biomassenergycentre.org.uk
Cymerwyd bod y dwysedd pren ar gyfer prennau caled yn 0.63 tunnell/m3 o bwysau sych, o 'Handbook of British Hardwoods' R.H. Farmer 1972, HMSO ac mae'n cymryd mai pren a dyfwyd yn lleol (Cymru) ydyw, deri, ffawydd ac onn yn bennaf. Felly mae pwysau 1m3 o foncyffion hollt rhydd a sychwyd yn y ffwrn yn 0.45 x 0.63 = 0.25 tunnell. Mae prennau meddal yn sylweddol ysgafnach, ac wrth ddefnyddio sbriws Sitka (y prif bren meddal a dyfir yng Nghymru) gyda dwysedd sych o tua 0.36 tunnell/m3 ('A Handbook of Softwoods', y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, 1977 HMSO) mae pwysau 1m3 o foncyffion hollt rhydd a sychwyd yn y ffwrn yn 0.45 x 0.36 = 0.16 tunnell.
Ni fydd y pren yn cyrraedd yn ffwrn sych, ac nid yw'n debygol o fod yn aer sych (20%), chwaith, ac felly newidiwyd y pwysau yn unol â hyn yn y tabl. Nid yw presenoldeb lleithder yn newid cyfaint darn o bren yn sylweddol. Cymerir y lleithder ar sail wlyb h.y. % o gyfanswm y pwysau, nid ar sail sych fel yn y diwydiant pren. Mewn gwirionedd, nid yw'r rhan fwyaf o bren yn debygol o gyrraedd gyda llai na 30% o leithder.
Os yw'r boncyffion wedi'u pentyrru'n daclus yna dylid lluosi pwysau'r boncyffion fesul metr ciwbig yn y tabl gydag 1.7.
|
Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn y daflen hon yn gywir, mae Coed Cymru yn eich cynghori y dylech gael cadarnhad annibynnol cyn gwneud unrhyw ymrwymiad ariannol. Andy Stewart Coed Cymru 17 Ebrill 2007
(Neu weld Tudalen Staff)
 |
Coed Cymru,Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd,
Powys SY16 3PL
Ffon 01686 650 777
|
 |
|