Mae Coed Cymru newydd adnewyddu ei Gynllun Ardystio Grwpiau gydag SGS Qualifor ar gyfer Rheoli Coedwigoedd, cynhyrchu pren caled a phren crwn meddal. Os oes coetir gennych chi, ac fe hoffech chi ymuno a'r cynllun, cysylltwch a'ch Swyddog Coed Cymru lleol neu'r brif swyddfa.
Mae ein cynllun yn agored i goetiroedd a reolir yn barod neu sy'n gymwys i gael eu rheoli gan Coed Cymru.
Nid oes tal.
Fe fydd eich pren yn cael ei asesu yn erbyn Safon Sicrwydd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS).
Mae yna ychydig bach o waith papur ychwanegol.
Mae'r cynllun yn cynnwys pren crwn hyd at y pwynt gwerthu cyntaf.
Ar gyfer prosesu/gwerthu pren pellach, fe fydd angen tystysgrif cadwyn cystodaeth ar wahan.
Er mwyn dod o hyd i bren a ardystiwyd gan CSC (FSC) Cymru, ffoniwch Coed Cymru ar (01686) 650 777
Mae yna fanylion pellach yn y daflen wybodaeth ganlynol: Coed Cymru Group Certification Scheme
Cliciwch yma i fynd at wefan UKWAS:
Cliciwch yma i fynd at wefan UK FSC:
|