 |
- Mae Partneriaeth Coed Cymru wedi bod yn weithgar am 20 mlynedd yn hyrwyddo'r defnydd o dderw a chastanwydden felys heb galedu ar gyfer ystod eang o ddodrefn cefn gwlad safonol ac wrth fesur am y rhesymau canlynol:-
- Mae'r cynhyrchion hyn yn defnyddio amrywiaeth o feintiau a graddau o elfennau sy'n lleihau gwastraff.
- Mae pren yn naturiol galed. Nid oes angen dim triniaeth, felly ar ddiwedd ei fywyd, nid yw'r cynnyrch yn gwastraff peryglus.
- Mae'r galw am adnoddau craidd wedi cynyddu gwerth y pren hwn yn sylweddol i dyfwyr yng Nghymru. Mae cyrff cyhoeddus ac unigolion yn gallu gweld eu penderfyniadau prynu moesegol/lleol yn darparu ysgogiad uniongyrchol ar gyfer rheoli coetiroedd.
- Mae busnesau lleol yn manteisio. Erbyn hyn, mae gennym ni dros 100 o felinau llifio yng Nghymru. Gellir cael manylion o ddarparwyr lleol gan Coed Cymru.
- Mae'r defnydd o bren caled trofannol wedi gostwng yn sylweddol.
Mae Coed Cymru'n gallu darparu gwybodaeth ar ddefnyddiau a dyluniadau traddodiadol, gan gynnwys - Giatiau, estyll a chyferbwyntiau, dodrefn picnic a chynhyrchion tirlunio.
Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd,
Powys SY16 3PL
ffon 01686 650 777
|
 |