Mae'r holl gynhyrchion yr ydym yn ymwneud a nhw wedi eu cynllunio i wneud y defnydd gorau o bren diamedr bach a gynhyrchir o gamau cynnar adfer coetiroedd.
Datblygwyd ein ffenestr dderw gyntaf wedi'i lamineiddio yn 1990. Wedi newid y dull gwneuthurio, teimlwn erbyn hyn fod gennym gynnyrch sy'n syml i'w wneud ac o ansawdd uchel.
Gosodwyd stof losgi pelenni pren yn y Swyddfa Ganolog 3 blynedd yn ol sydd yn effeithiol iawn. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar ddatblygu peiriant pelenni a fyddai'n addas ar gyfer busnes gwaith pren bach.
Mae'r lloriau pren caled wedi bod yn hynod o lwyddiannus a bellach mae yna 14 gwneuthurwr yng Nghymru sy'n cynhyrchu lloriau pren caled. O ganlyniad i lwyddiant y lloriau stribed, rydym wedi datblygu'r teil llawr graen pen deniadol yma ac ar hyn o bryd yn edrych am wneuthurwyr i gymryd y cynnyrch.
|