COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT
Sychu Coed  |  Priddoedd a dwr |  Egni Pren |  Gneud Pelenni |  Cymharydd Cost |  Compost |  Trin Pren gyda Gwres|  Ty Unnos| 

DATBLYGIAD
TRIN PREN GYDA GWRES

ENGLISH

Cyflwyniad
Archwiliwyd y broses o addasu priodweddau pren trwy ei drin gyda thymheredd uchel ers dros hanner can mlynedd. Yn ystod y 1990au cynnar, datblygwyd amrywiaeth o brosesau triniaeth gwres yng ngogledd Ewrop er mwyn cynhyrchu pren yr honnir ei fod yn fwy sefydlog ac yn llai tebygol o bydru, priodwedd sy'n arbennig o ddefnyddiol i uwchraddio pren meddal, sydd fel arfer yn llai gwydn, heb ddefnyddio cemegau.

Anfonwyd pecyn o ffawydd Cymreig er mwyn profi'r driniaeth (fel rhan o brosiect 'Shortlength' a ariennir gan yr UE) trwy un dull sy'n defnyddio gwres rhwng 180o a 230o ac roedd y canlyniadau'n eithaf trawiadol.

Beech before and after heat treatment
Triniaeth Gwres i Gymru Rol Coed Cymru yw rhoi help a chyngor ynghylch rheoli a gwella coetiroedd. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu pren (pren caled yn bennaf) ac ychwanegu gwerth at y pren yna ac, o'n profiad ni, tra bod yna farchnad barod ar gyfer derw, mae'n gallu bod yn anoddach gwerthu ffawydd, sycamorwydd a hyd yn oed onn. Efallai y bydd triniaeth gwres yn un ffordd o godi gwerth y pren hwn.


Mae ffyrnau sydd wedi eu hadeiladu'n arbennig at y diben ar gael yn fasnachol ond maen nhw'n rhai mawr ac yn ddrud iawn. Roedden ni'n teimlo bod angen ffwrn fach a fyddai'n fwy addas at raddfa cynhyrchu pren caled a llawer o'r gwneuthuro yng Nghymru. Roedd angen profi'r broses ar brennau caled Cymru hefyd a chael gwybodaeth ar y protocolau trin mwyaf addas. Rydyn ni hefyd yn cydweithio gyda Marcos Gonzales-Pena yn yr Ysgol Amaethyddiaeth a Choedwigaeth ym Mhrifysgol Cymru ym Mangor. Mae ef yn cynnal astudiaeth fanwl i'r broses o drin bedw a mathau eraill o bren gyda gwres ac mae'n rhoi mewnbwn technegol sylweddol hefyd.


Y ffwrn Adeiladwyd ffwrn sy’n gallu trin hyd at 1m3 i fyny at 250o gan Caltherm, cwmni arbenigol yn Newcastle under Lyme (01782 563865). Mae'n bwysig cadw ocsigen allan ac felly cyflwynwyd pyrth ar gyfer ager a nitrogen a sicrhawyd bod y tu mewn yn weddol aerglos. Caiff yr aer ei gylchdroi gan ffan bwerus. Darparwyd system glampio a llwytho troli cadarn i ddiogelu'r pren. Roedd y ffwrn yn costio tua £13,000, er y gellir ei gwneud yn fwy heb ychwanegu’n sylweddol at y gost. Mae gwybodaeth fanylach ynghylch cynllun y ffwrn ar gael ar gais. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi darparu'r nawdd i brynu'r ffwrn.

Canlyniadau trin pren gyda gwres. Mae amrywiaeth o rywogaethau pren wedi cael eu trin am gyfnodau gwahanol o amser. Dyma enghreifftiau o'r canlyniadau:
Mae'r pren yn tywyllu yn ol y tymheredd a hyd y driniaeth. Mae rhai wedi meddwl mai pren trofannol ydyw, ac rydyn ni'n deall bod yna ddiddordeb cynyddol mewn prennau tywyllach. Mae'r lliw trwy'r pren, sy'n golygu bod hyn yn fantais o'i gymharu â gorffeniadau staen, gan greu amrywiaeth newydd o gynnyrch pren.

Mae'r tywyllu yn dibynnu ar hyd a thymheredd y cynhesu. Cynheswyd y samplau ffawydd isod ar dymheredd o 200o am hyd at 8 awr.

Rheolydd, 1 awr, 2,3,4,6,a 8 oriau
Roedd y lliw'n dywyllach yr hiraf yr oedd y driniaeth, ac felly gellir dewis y lliw sydd ei angen.

  • Mae trin gyda gwres yn gwneud pren yn fwy sefydlog fel y gwelir isod. Ail-sychwyd samplau o ffawydd wedi eu trin ar 200o a'u gadael i chwyddo mewn aer a oedd yn llawn dwr. Roedd y symudiad hyd at 50%, yn llai, sydd ychydig yn well na sampl a oedd wedi cael ei drin yn y Ffindir. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ffawydd sydd â symudiad uchel ac mae'n cynyddu'r amrywiaeth potensial o gynnyrch y gellir defnyddio ffawydd ar eu cyfer.
  • Rydyn ni wedi darganfod bod tymheredd is am amser hirach yn rhoi cynnyrch mwy dibynadwy ac unffurf. Mae cyrraedd y tymheredd yn araf gan ei ddal ar 120o i sychu i ddechrau yn rhoi cynnyrch da.
  • Defnyddir pren sydd wedi ei sychu mewn odyn er ei bod yn bosib y gellid addasu'r broses i sychu rhai rhywogaethau'n rhannol er mwyn gostwng amserau sychu yn yr odyn.
  • Mae triniaeth gwres yn dueddol o newid priodweddau ffisegol pren. Mae gennym beth gwybodaeth ar hyn ond mae Marcos Gonzales-Pena ym Mhrifysgol Cymru ym Mangor yn gwneud llawer o waith ar hyn. At sawl diben (dodrefn, lloriau) lle nad yw'r pren yn cael ei wthio i'w eithaf, ni fydd y newidiadau hyn yn sylweddol.
  • Mae'n ymddangos bod y priodweddau o ran defnyddio peiriannau yn well.
  • Ni phrofwyd pa mor gryf yw'r samplau sydd wedi eu trin eto, ond mae hyn wedi ei gynllunio ar gyfer y dyfodol. Dylid nodi y dylai'r profion hyn gael eu gwneud gan labordy cymwys sy'n gallu rhoi ardystiad iawn.
  • Chairs before and after heat treatment


    Casgliadau Rydyn ni'n teimlo bod trin prennau caled gyda gwres yn gallu cynhyrchu amrywiaeth newydd o gynnyrch defnyddiol o brennau caled a dyfwyd yn lleol yng Nghymru. Efallai y bydd rhai prennau meddal yn addas i'w trin gyda gwres, er fe allai'r ffaith eu bod yn wannach ac yn fwy bregus fod yn broblem

  • Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Andy Stewart yn Coed Cymru, 01686 650777
    (Neu gweld y dudalen Staff am gyfeiriadau a rhif ffon swyddogion).

    Cefnogir y gwaith hwn gyda nawdd gan Awdurdod Datblygu Cymru, Cronfa Strwythur Pren Mewnol Timber II a'r UE.