|
Bwriada'r system Ty Unnos ymgorffori'r nodau canlynol:-
Yn bennaf, ychwanegu at werth prennau Cymreig i annog cynnal a chadw parhaus ac adfywio graddol coedwigoedd Cymru
System a gaiff ei bwydo gan gyflenwyr lleol, gan ddefnyddio adnoddau safonol lleol ac sydd ar gael yn hwylus heb orfod defnyddio prosesau ychwanegol
Defnyddio technoleg addas ar gyfer hunan-adeiladu neu adeiladu gyda chymorth a bod modd i rwydweithiau diwydiant presennol y melinau llifio lleol ei fabwysiadu heb orfod buddsoddi gormod o gyfalaf na'r angen am sgiliau arbenigol.
Pecyn o gydrannau safonol syml sy'n cynnwys celfi, darnau gosod a gosodiadau wedi'u cydlynu yn ôl dimensiwn a gellir eu paratoi'n barod a'u hadeiladu'n effeithlon ar safleoedd
Ateb cynaliadwy addas i'r galw cynyddol am dai fforddiadwy ar dirwedd amrywiol a chyd-destun diwylliannol Cymru
Bod modd addasu'r system i gynnwys amrywiol graddau a mathau o brennau meddal.
System sy'n ymgymryd â'r her o adeiladu sero-carbon erbyn 2012 trwy ddefnyddio deunyddiau a dulliau adeiladu hynod o gynaliadwy a nodweddion gwresogi effeithlon iawn
Mae pyrwydd Sitca yn seiliedig ar fodiwl 600mm er hyblygrwydd adeiladu
Gan ddefnyddio meintiau pren safonol wedi'u cynhyrchu gan felinau llifio, caiff trawstiau bocs pyrwydd Sitca eu paratoi'n barod i ffurfio ffrâm borthol saernïol, a phanelau sydd wedi'u hinswleiddio'n barod ar gyfer y waliau, lloriau a thoeon. Mae'r fframiau a'r panelau hyn yn creu cyfres o ystafelloedd modwlar sy'n amrywio o ran maint cymaint â 1.2m x 3m i 4.8m x 3m neu o'r cyntedd i'r ystafell wely fach i'r gegin i'r lolfa. Mae hyn yn golygu y gellir cynhyrchu amrywiol fathau o dai ar wahanol safleoedd, ynghyd â'r posibilrwydd y gellir ychwanegu modiwlau wrth i ofynion y ty ddatblygu dros amser.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag David Jenkins yn Coed Cymru, 01686 650777
|