COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT

DATBLYGIAD
PROSIECT ROBINWOOD: 'ADDYSG A MARCHNATA TANWYDD COED'
ASESIAD ASTUDIAETH ACHOS O WEITHFEYDD LLOSGI COED YNG NGHYMRU CRYNODEB

ENGLISH


Robinwood logo Interreg logo European Union logo




Mae'r defnydd o goed a biomas arall i ddarparu gwres ac ynni a dadleoli tanwyddau ffosil wedi bod yn datblygu yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac erbyn hyn mae dros 50 o systemau technoleg mwy newydd wedi'u gosod ynghyd â nifer fawr o stofiau a bwyleri coed traddodiadol. Nod y prosiect hwn oedd penderfynu pa mor llwyddiannus fu'r gweithfeydd mwy newydd hyn yn nhermau ymarferoldeb eu sefydlu a'u rhedeg yn ogystal ag yn nhermau cyfraniad a chost effeithiolrwydd dadleoli allyriadau nwyon ty gwydr o danwyddau ffosil. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i faterion eraill megis argaeledd tanwydd, diogelwch ynni, gwaith, busnes a datblygu cymunedol. Noder nad darparu asesiad ciplun o systemau sydd mewn gwir ddefnydd yw bwriad yr astudiaeth, ac nid astudiaeth gynhwysfawr ddiffiniol mohoni.

Cyflawnwyd y prosiect hwn gyda chymorth cyllid Ewropeaidd Interreg IIIC (Robinwood) ac mewn partneriaeth gyda Forderkreis Waldschule Eberswalde, yr Almaen (y Partner Arweiniol).

Dewiswyd 15 o weithfeydd yn cwmpasu ystod eang o allbynnau (prosiectau gwres 8kW i 500kW ynghyd ag un orsaf bwer 1500MW yn llosgi glo a choed ar y cyd). (Casglwyd gwybodaeth o 3 safle yn Brandenburg ond ni cheir crynodeb o'r wybodaeth yn yr astudiaeth hon). Defnyddiwyd holiadur ac ymweliadau safle i sicrhau'r wybodaeth sylfaenol a ddadansoddwyd yn ddiweddarach. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn:

'ALLBYNNAU'

Cyn y gwaith gosod:
  • Yn y cyfnodau cynnar, roedd yn anodd dod o hyd i wybodaeth, ac yn anodd cael dyfynbrisiau.
  • Ar y dechrau, gallai gwybodaeth fod yn oroptimistaidd a chamarweiniol.
  • Gallai'r gwaith gosod fod yn broblematig, yn enwedig ar gyfer cynlluniau mawr.
  • Yn aml cymerai'r gwaith gosod fwy o amser na'r disgwyl.
  • Roedd gofyn cael brwdfrydedd a chadernid yn aml i wireddu prosiect.
  • Lleihau allyridau CO2 oedd y symbyliad pennaf yn y rhan fwyaf o'r achosion a astudiwyd.
  • Wedi'r gwaith gosod

  • Profiad cymysg:
  • Gweithiai rhai gweithfeydd mwy yn dda ond cawsai eraill broblemau gwaith dannedd sylweddol
  • Yn ddiweddarach, tueddai'r cleientiaid i fod yn fodlon gyda'r cyfarpar a chyda'r offer rheoli
  • Ni weithiodd nifer fechan o fwyleri'n dda o gwbl
  • Roedd stofiau a bwyleri boncyffion, a stofiau peledi yn gymharol hawdd i'w gosod a'u defnyddio.


  • TANWYDD

    COED TÂN
  • Gall boncyffion a brynwyd fod yn ddrutach nag y sylweddolwyd ond maent yn boblogaidd
  • Gellid pwyso'r gost hon gyda'r posibilrwydd o goed tân 'rhad ac am ddim' o ddarnau gwastraff o bren neu goed o eiddo'r defnyddiwr neu o rywle arall
  • Gwelir mewnbwn y defnyddiwr (torri, cario) yn aml fel elfen gadarnhaol
  • Potensial ar gyfer cyflenwyr lleol
  • Brics glo yn ddrud, ac ychydig o gyflenwyr.


  • Sglodion
  • Ar ôl y problemau cynnar, tuedda cyflenwadau sglodion bellach i fod o ansawdd dderbyniol
  • Gall nifer o fwyleri ymdopi â sglodion hyd at leithedd o 50+%
  • Yn cael eu cyflenwi'n lleol, a photensial ar gyfer datblygu yn y dyfodol
  • Yn tueddu i fod y tanwydd rhataf, yn enwedig os daw o adnodd y defnyddiwr ei hun neu gyd-gynhyrchion coed.

    Peledi
  • Yn ddamcaniaethol mae'n danwydd delfrydol, ond bu ansawdd, ar adegau, yn broblem fawr
  • Bu parhad cyflenwadau yn broblem
  • Bu rhai contractau swmpus dan bris cyfatebol olew ond gall cyflenwadau bychain fod yn ddrutach neu'n llawer drutach.


  • 'Canlyniadau'
    Cost Effeithiolrwydd, yn nhermau cost gwres (ceiniog/kWh)a chost dadleoli tanwydd ffosil CO2. Nodir yr olaf yn aml fel y rheswm dros symud i wresogi biomas. Gan y derbynnir yn gyffredinol bellach fod adnodd biomas cyfyngedig yng Nghymru mewn perthynas â'r galw am ynni a'i bod yn annhebygol y bydd cymhorthdal diddiwedd ar gael, mae cost effeithiolrwydd gosodiadau gwresogi â choed yn bwysig. (Anwybyddwyd yn ein cyfrifiadau yr effaith gaiff nawdd ariannol i brosiectau - neu Dystysgrifau Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy - ar gyfer cynhyrchu gwres)
  • Tuedda cost cyfalaf bwyleri biomas fod 5 - 10 gwaith yn fwy na bwyleri nwy neu olew. Gyda chynlluniau mawr gellid glastwreiddio'r gost ychwanegol lle mae cyfanswm cost prosiect o godi gwaith newydd neu ailosod offer yn uchel (o ganlyniad, dyweder, i system eang o ddosbarthu gwres). Gall y costau uchel gael eu hamsugno hefyd lle cefnogir cynllun gan sefydliad mawr (e.e. cyngor sir) gyda mewnbwn refeniw uchel, ac wedi'i wasgaru'n ddamcaniaethol dros 15 neu 20 mlynedd. Gyda chynlluniau eraill (domestig, busnesau bychain) hyd yn oed gyda pheth cymhorthdal, mae'n rhaid dod o hyd i gyllid sylweddol rhag blaen ac mae'n rhaid fod hyn yn anghymhelliad. Er hynny, rydym yn gwasgaru costau cyfalaf dros oes y cyfarpar ar gyfer yr holl achosion a astudiwyd. Ni fyddai mwyafrif y cynlluniau wedi mynd rhagddynt heb gymhorthdal.
  • Er mwyn cymharu costau gyda system tanwydd ffosil, y meincnod oedd y boeler olew wrth-gefn yn achos 11. Ar gyfer systemau llai byddai'r gost cyfalaf yn uwch.
  • Roedd amrywiaeth sylweddol yng nghyfanswm y costau (tanwydd, rhedeg, cyfalaf) gwres a gwrthbwyso CO2 ar draws yr ystod o weithfeydd (rhwng 3 - 7ceiniog/kW yr awr, [roedd y boeler olew 3.8c/kW yr awr] 11 - 27c/kgCO2). Eithriwyd o'r ffigurau hyn un boeler oedd yn gweithio'n wael ac un arall nad oedd yn cael ei ddefnyddio i'w gynhwysedd arfaethedig.
  • Roedd rhai systemau sglodion ar y pegwn isaf ac roedd cyfanswm y costau’n rhatach na'r system olew yn y tymor hir, ond ni ellid gwneud unrhyw arbedion gyda'r gweddill.
  • Roedd yn galonogol fod y systemau llai cost effeithiol dim ond ddwywaith cost y gosodiad olew, gwahaniaeth y gellid ei leihau gyda swm cymhedrol o gymhorthdal ac/neu a allai fod yn dderbyniol i'r rheiny sy’n ymrwymedig i leihau allyriadau nwyon ty gwydr.
  • Rhai o'r systemau ar raddfa fwy oedd y mwyaf cost effeithiol, a gellid lleihau costau cyfalaf pe gellid rhedeg y systemau llwyth-isel am gyfnod hwy. Yn wir roedd llawer o'r gweithfeydd yn rhedeg ar lwythi isel iawn.


  • Fodd bynnag, roedd pryderon dwys fod costau mewn llawer o achosion heb gael eu harfarnu'n gywir. Ychydig fesuryddion gwres gawsai eu gosod, a hon yw'r unig ffordd ddibynadwy o fesur gwres a gyflenwyd gan waith. Gallai'r pwysau honedig o danwydd a ddefnyddiwyd fod yn annibynadwy, nid oedd gan rai systemau gostau rhedeg/cynnal a chadw wedi'u nodi, ac nid oedd sôn am gostau llog, (ee llog ar fenthychiadau neu log a gollwyd ar gyfalaf a allai fel arall fod wedi'i fuddsoddi) a allai mewn rhai achosion gynrychioli swm blynyddol sylweddol.

  • Ymddengys mai'r achos mwyaf cost effeithiol o bell ffordd yw'r orsaf bwer sy'n llosgi glo a choed ar y cyd. Mae hyn oherwydd ei hoed, felly mae'r gost cyfalaf wedi'i dileu, ac am fod y coed yn dadleoli tanwydd ffosil uchel (glo) a gaiff ei ddefnyddio yn gymharol wastraffus (collir llawer o wres). Mae'r raddfa uchel (50,000 o dunelli o goed y flwyddyn) yn cynrychioli dadleoliad sylweddol o CO2.


  • Creu gwaith
  • Gosodwyr, rheolwyr prosiect
  • Cyflenwyr tanwydd


  • Manteision eraill
  • Llai o dirlenwi a chostau tirlenwi
  • Rhai gosodiadau yn cael eu defnyddio i arddangos gwresogi gyda choed
  • Rheoli coetir


  • Argymhellion
  • Sefydlu gweithdrefn safonol o osod a monitro wedi-gosod gyda mesuryddion gwres, cofnodi tanwydd yn gywir, profiad rhedeg a chostau, i werthuso'n gywir weithredu'r gosodiad, y costau cyfalaf a sefydlu.
  • Dylai cymhwyso'r weithdrefn fonitro hon fod yn ofynnol ar gyfer unrhyw gymhorthdal.
  • Mwy o gymorth a hyrwyddo technoleg symlach a rhatach, e.e. stofiau llosgi boncyffion effeithlon a boeleri sylfaenol sy'n fwy fforddiadwy i'r defnyddiwr bychan sy'n talu'r gost cyfalaf rhag blaen. Mae hyn hefyd yn hybu cadwyn gyflenwi leol.
  • A ellid darparu cymhorthdal yn debyg i fenthyciadau di-log yr Ymddiriedolaeth Garbon i Fusnesau Bach a Chanolig ar gyfer ynni adnewyddadwy neu effeithlonrwydd ynni i gleient preifat llai?
  • Targedu sefydliadau mawr gyda galw mawr am wres, lle gellir ymdopi'n well â'r gost uchel.
  • Rhoi mwy o bwyslais ar ymchwilio i'r opsiwn o orsaf bwer sy’n llosgi glo a choed ar y cyd lle gall dadleoli CO2 fod yn fawr iawn ond ar gost isel.
  • Gwella ffynonellau gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth am gostau sy'n wrthrychol.
  • Ystyried, lle bo'n briodol, uwchraddio hen osodiad nwy neu olew i foeler nwy neu olew tra effeithlon:gallai'r tanwydd a arbedir dalu am y costau cyfalaf a gosod mewn ond ychydig o flynyddoedd gyda hyd at 30% o ostyngiad mewn allyriadau nwyon ty gwydr.


  • Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
    Tregynon, Y Drenewydd
    Powys, SY16 3PL
    Ffôn 01686 650 777