GWIWEROD
RHAI FFEITHIAU:
NID yw'r Gwiwerod Llwyd yn frodorion i Brydain a chyflwynwyd nhw i'r DU o'r America yn y 19eg ganrif. Mae eu llwyddiant wedi arwain at ddiflaniad bron y cyfan o'n gwiwerod coch
brodorol. Maen nhw'n gallu byw hyd at 10 mlynedd a byddan nhw'n cynhyrchu torllwyth o tua thri ifainc yn y gwanwyn neu'r haf hwyr, neu'r ddau, ar ol 42-45 diwrnod cyfebru. Caiff y rhai bach eu diddyfnu ar ol 10 wythnos ac maen nhw'n annibynnol ymhen 16 wythnos. Maen nhw'n gyffredin ledled Cymru, Lloegr a rhannau o'r Alban. Maen nhw'n hoffi coetir collddail a cymysg a chânt eu darganfod hefyd mewn gwrychoedd, coed, parciau a gerddi.
Maen nhw'n byw ar fes, blagur coed, blodau, cnau a grawnfwyd. Maen nhw'n achosi difrod mawr yng nghoetiroedd llydanddail brodorol Prydain a phlanhigfeydd conwydd, gan stripio rhisgl o rywogaethau fel derw, ffawydd, castanwydd melys, pinwydd, llarwydd a sycamorwydd. Unwaith caiff coeden hyn ei difrodi, mae hi'n dod yn fwy agored i ymosodiad ffwngaidd, pydredd ac afiechyd sy'n gallu arwain at dyfiant gwyrgam ar y gorau, neu farwolaeth yn yr amgylchiadau gwaethaf. Yn y coed ifanc, mae difrod gan wiwer yn difrodi'r goeden.
Nid yn unig yw'r wiwer lwyd yn difrodi coetiroedd, ond mae wedi disodli rhywgoaethau brodorol eraill fel y wiwer goch a'r pathew a rhai adar.
Caiff yr ymosodiad cynyddol yma ar ein coetiroedd brodorol gan boblogaethau'r wiwer lwyd ei reoli drwy drapio a saethu. Mae trapiau wiwerod a gwybodaeth ar gael gan Robin Tarrant o Magnum Trap Cyf ar 02380 585421
Hefyd hyfforddiant gan Tony Appleby ar 01824 704561
Trapiau hefyd ar gael gan Arthur Carter, Blwch SP 198, Lytham St Annes FY8 5XH e-bost:info:arthurcarterurad.com Ffôn 0845 3703113
Mae nodyn ar reoli difrod i'r coetiroedd gan y wiwer wedi’i gyhoeddi ar wefan y Commisiwn Goedwigaeth
|