CYFLWYNIAD
Cychwynnodd Coed Cymru fel corff ymgyrchu i gynyddu ymwybyddiaeth o goetiroedd brodorol, yn enwedig ymhlith y gymuned ffermio sy'n berchen ar y mwyafrif o'r coetiroedd yma. Yn 1986 sefydlwyd rhwydwaith o gynghorwyr coetir, wedi eu lleoli mewn swyddfeydd Cynghorau Sir a Pharciau Cenedlaethol. Mae swyddfa ganolog Coed Cymru yn Nhregynon yn darparu'r gefnogaeth cyfathrebu, technegol a gweinyddol sydd angen i gydlynu'r mudiad.
Mae pedair rol eglur wedi dod i'r amlwg ar gyfer Coed Cymru:
- Fel darparwr cymorth, cyngor a hyfforddiant diduedd, rhad ac am ddim;
- I hyrwyddo cydweithredu rhwng perchnogion coetir, contractwyr coetir a defnyddwyr pren
- I ddatblygu cynnyrch a marchnadoedd pren caled i sicrhau bod gan coetiroedd llydanddail sail economaidd gadarn a fydd yn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n barhaus.
- I fod yn eiriolydd ar gyfer coetiroedd llydanddail yng Nghymru ac i weithredu fel catalydd i sicrhau manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol drwy rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.
Y WELEDIGAETH
Integreiddio Coedwigaeth, Ffermio a'r defnydd o Bren yn agosach
- Mwy o ddefnydd o goetiroedd ar gyfer hamdden;
- Mwy o amrywiaeth economaidd a biolegol yn ganlyniad i systemau coedwrol cynaliadwy;
- Y defnydd pennaf o ddeunyddiau sydd wedi eu medi yn yr economi lleol;
- Llai o ddibyniaeth ar bren caled a fewnforiwyd;
- Dealltwriaeth go iawn o bwysigrwydd cymdeithasol, masnachol ac amgylcheddol coetiroedd yng Nghymru.
Gwireddu'r Weledigaeth
Ailadeiladu traddodiad wedi'i seilio ar ymchwil a datblygiad, cefnogaeth dechnegol barhaus ac addysg a hyfforddiant. Mae'n ymgyrch gynaliadwy i osod traddodiad coetir wrth galon bywyd cymdeithasol a masnachol Cymru.
|