Beth yw Coed Cymru?
Partneriaeth o gymdeithasau sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod coetiroedd llydanddail Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Fe'i cychwynnwyd yn 1985 ac fe'i sefydlwyd fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac fel elusen yn 1989.
Beth oedd y rheswm dros ei chychwyn?
Yn dilyn canrif o esgeuluso ac ysbeilio, roedd y mwyafrif o goetiroedd llydanddail Cymru wedi eu gadael mewn cyflwr o ddirywiad difrifol gydag 85% yn dangos nad oedd unrhyw goed ifanc yn cael eu plannu.
Beth yw gwaith Coed Cymru?
Mae'n rhoi cyngor a chymorth rhad ac am ddim ar reoli coetiroedd mewn modd sensitif a'r defnydd cynaliadwy o gynnyrch coetiroedd. Mae'n cwmpasu'r holl sbectrwm, o dyfu coed newydd i gynnyrch pren caled Cymreig o ansawdd uchel.
Sut caiff ei ariannu?
Ariennir Coed Cymru gan y partneriaid: Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), Awdurdodau Lleol (CLlLC) a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru, y Comisiwn Coedwigaeth (CC) Awdurdod Datblygu Cymru (y WDA) a'r Gronfa Natur Fyd-eang (y WWF).
Beth sydd wedi'i gyflawni?
Cychwynnwyd dros 4985 o brosiectau rheoli coetiroedd a phlannu coed, ar y cyfan, ychydig dros 17,252 hectar. Mae dros 400 o fusnesau bellach yn defnyddio pren caled o Gymru yn rheolaidd, gan gynnwys llawer sydd wedi eu perswadio o'r newydd.
Diwydiant Pren Caled Cymru
Cyn i ddeunydd rhad wedi'i fewnforio gyrraedd, roedd y diwydiant yn hunan-ddibynnol yn lleol ac yn rhan o hen draddodiad o grefftwaith.
Nodwedd o'r diwydiant heddiw yw cynnyrch o safon, y mae modd eu haddasu, peirianwaith soffistigedig, arbenigedd ac, yn eironig ddigon, dibyniaeth gryf ar bren a fewnforiwyd.
|