COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT

CYNNYRCH
CYNNYRCH PECYNNU

ENGLISH

Ttrawsffurfio adnodd sydd wedi'i danbrisio yn gynnyrch sydd a mwy o werth


Mae pecynnau yn ffordd draddodiadol o ddefnyddio pren ac yn ffordd ddelfrydol o ddefnyddio adrannau bach a darnau bach sbâr a fyddai'n mynd yn wastraff fel arall.

Ein hymagwedd yma yng Nghoed Cymru oedd canolbwyntio ar becynnau sydd ag ail fywyd. Datblygwyd y cynnyrch hwn yn ein gweithdy yn Nhregynon a gellir eu cael gan wneuthurwyr masnachol.

Os oes angen penodol gennych am becynnau, fe fyddwn yn medru eich helpu i ddatblygu'r prototeip a meithrin cysylltiadau gyda'r gwneuthurwyr sydd hefyd â'r offer i frandio ac argraffu er mwyn addasu eich cynnyrch fel ei fod yn unigryw i chi.

Elfen bwysig yw'r ffaith fod y cynnyrch hwn yn syml i'w wneud ac yn medru defnyddio peiriannau cost isel. Felly mae'n ddelfrydol i wneuthurwyr sydd wedi eu sefydlu ond hefyd i weithwyr gweithdai cymorth sydd, efallai, ddim â sgiliau turnio pren sylweddol.

Os oes diddordeb gennych mewn unrhyw rai o'r cynnyrch hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r e-bost - coedcymru@coedcymru.org.uk neu ffoniwch Coed Cymru ar 01686 650777

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu cynnyrch Ongl Gymreig, defnyddio pren o Gymru neu wneuthurio cynnyrch Ongl Gymreig, mae croeso i chi gysylltu a ni drwy'r e-bost ar - coedcymru@coedcymru.org.uk
neu ffonio Andy Stewart, Coed Cymru ar 01686 650777