COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT

PROSIECTAU



ENGLISH


Yn ystod cyfnod newydd o ddatblygiad, mae'r prosiect Ty Unnos yn defnyddio cyfres o brosiectau dylunio go iawn i brofi, datblygu a mireinio'r system ac ystyried paramedrau megis perfformiad economaidd ac amgylcheddol. Bydd y prosiectau hyn ar waith erbyn diwedd 2008 a byddant yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i gynorthwyo datblygiad systemau adeiladu masnachol.


Canolfan Ymchwil Amgylcheddol Glyn Ebwy

Wedi'i leoli mewn ardal o ddiddordeb ecolegol o amgylch y ty pwmpio a hen Waith Dur Glyn Ebwy, mae'r cais yn cynnwys cyfleusterau dosbarth i 30 person, swyddfa, cegin a chyfleusterau ty bach.


Bydd nifer o elfennau yn cael eu pwysleisio megis fforddiadwyedd dan gyllideb gyfyngedig, perfformiad saerniol y fframiau porthol, adeiladwyedd y system adeiladu a'r cyflymder y medrir ei adeiladu. Bydd cyfyngiadau'r safle yn pwysleisio pwysigrwydd cynhyrchu oddi ar y safle. Bydd yr angen am orffeniadau parhaol a chadarn mewnol ac allanol am gost resymol hefyd yn fater o bwys.

Canolfan Ymwelwyr Coed Llandegla

Coed Llandegla yw un o gyfleusterau hamdden preifat mwyaf Gogledd Cymru. Mae'r caban presennol yn cynnwys cyfleusterau caffi, siop feiciau a gweithdy, siop hurio beiciau, cyfleusterau ty bach a dosbarth. Bydd y cais yn ychwanegu at yr adeilad hwn a darparu dosbarth wedi'i adleoli, swyddfa ar gyfer 8 person, ymestyn y gweithdy presennol a'r stordy beiciau a darparu ardal paratoi bwyd ychwanegol.

Bu hwn yn safle heriol oherwydd nifer y mynediadau cyhoeddus ar dir hynod o anwastad.
Stiwdio Wledig - Tregynon

Bydd y prosiect hwn yn gweithredu fel arddangosfa ar gyfer cynnyrch a phrosiectau pren Cymreig a ddatblygwyd gan Goed Cymru a'i bartneriaid. Felly, bydd elfennau megis ffenestri, cladinau a lloriau yn cael eu datblygu a'u hintegreiddio i mewn i'r system. Caiff ei leoli ar dir prif swyddfa Coed Cymru yn Nhregynon a bydd yr uned fach yn cynnwys gweithdy ar gyfer yr Uned Ymchwil yn ogystal ag uned arddangos Coed Cymru. Ariennir y prosiect hwn gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac yn bennaf, fe fydd yn gweithredu fel prototeip i alluogi datblygiad dulliau adeiladu.




Am wybodaeth pellach cysylltwch ag David Jenkins Coed Cymru, 01686 650777
(NEU gweld y dudalen Staf am cyfeiriadau ebost a rhif ffon swyddogion).


Coed Cymru,Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd,
Powys SY16 3PL
Ffôn 01686 650 777