Y flwyddyn ddiwethaf fe nodwyd gennym ganlyniadau arbennig y profion archwiliol gomisiynwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dangosodd y rhain gynnydd trigeinplyg mewn mandylledd mewn priddoedd glaswelltir glaswellt wedi'u trawsnewid i goetiroedd fferm. O'r gwaith hwn daeth astudiaeth gynhwysfawr dros bedair blynedd i sefydlu beth sy'n digwydd i ddwr glaw fel y tramwya drwy'r pridd ac fel mae hyn yn effeithio llifau'r nentydd yn nalgylch Pontbren ac i lawr yr afon. Cydgysylltir y gwaith gan Gonsortiwm Ymchwil Rheoli Risg Llifogydd sydd wedi trosglwyddo elfennau o'r gwaith ym Mhontbren i'r Ganolfan ar gyfer Ecoleg a Hydroleg, Prifysgol Cymru Bangor, Coleg yr Imperial a Phrifysgol Nottingham. Bydd partneriaid eraill yn corffori canlyniadau'r gwaith maes hwn i mewn i fodelau cyfrifiadur o lifau yn yr Afon Hafren.
Mae noddwyr Consortiwm Ymchwil Rheoli Risg Llifogydd yn cynnwys Ymchwil Peirianyddiaeth a Gwyddorau Ffisegol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Asiantaeth yr Amgylchedd, Bwrdd Gweithredol yr Alban, Awdurdod Afonydd Gogledd Iwerddon ac UKWIR. Cyllidir plannu coed, adfer gweirgloddiau a gwlyptir gan y Comisiwn Coedwigaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru a thrwy raglen Enfys a weinyddir gan Gyngor Cymru dros Weithredu Gwirfoddol.
|