COED CYMRU Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
Bringing Welsh Woodlands into Sustainable Management
HAFANAMDANOM NICOETIROEDDCYNNYRCHCYFLENNADAUDATBLYGIADSIOEAUADRODDIADAUDOLENNI CYSWLLT
Sychu Coed  |  Priddoedd a dwr |  Egni Pren |  Gneud Pelenni |  Cymharydd Cost |  Compost |  Trin Pren gyda Gwres|  Ty Unnos| 

DATBLYGIAD
FELLY,RYDYCH CHI AM GYNHYRCHU PELENI TANWYDD PREN?

ENGLISH

Canllawiau wrth benderfynu pa mor ymarferol yw cynhyrchu pelenni o bren a chyd-gynnyrch pren ar raddfa fach

Mae pelenni pren yn fath dwys, cyfleus o danwydd pren sy'n llosgi'n dda mewn stofiau a boeleri sydd wedi eu hadeiladu yn arbennig at y diben. Maen nhw'n danwydd cynaliadwy cyffredin yng Ngogledd America ac mewn llawer o wledydd ar brif dir Ewrop ond maen nhw ar gam cynnar yn eu datblygiad yn y Deyrnas Unedig. Mae'r rhan fwyaf o belenni yn cael eu gwneud mewn melinau mawr sydd wedi eu hadeiladu'n arbennig at y diben, sydd fel arfer wedi eu cysylltu at felinau llifio. Yn y Deyrnas Unedig, mae yna farchnad amgen ar gyfer llawer o swmp cyd-gynnyrch y felin lifio y gellid ei newid yn belenni pren, ond mae yna nifer o fusnesau llai (melinau llifio, gweithdai coed a busnesau dodrefn) sy'n cynhyrchu deunydd gwastraff, o ychydig o dunelli'r flwyddyn i ychydig filoedd o dunelli'r flwyddyn.

Mae Coed Cymru wed gweithio gyda Farm Feed Systems a Dragon Machinery i ddatblygu system raddfa fach i felino pelenni sy'n gallu prosesu o 40kg/awr hyd at 250kg/awr. Cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb o blith unigolion a busnesau bach yn y potensial i drawsnewid gwastraff pren yn belenni gan droi gwastraff sy'n gyfrifoldeb arnynt yn gynnyrch y gellir gwneud elw ariannol ohono. Ond, oherwydd nad ydyw'r broses o wneud pelenni yn broses syml, ac oherwydd y bydd llwyddiant y broses yn dibynnu ar nifer o ffactorau, rydyn ni wedi llunio'r rhestr ganlynol i helpu pobl i benderfynu pa mor anodd ydyw. Nid bwriad y rhestr yw rhoi ateb 'ie' neu 'na' terfynol, na'ch annog chi i beidio ag ystyried y peth, ond y bwriad yw sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r materion sydd angen eu hystyried.

Deunydd Crai

  • Gellir gwneud pelenni o brennau meddal a phrennau caled. Fe fydd y trwybwn (kg/awr) yn dueddol o fod yn llai gyda phrennau caled, o bosib hanner cymaint, ond fe fydd hyn yn dibynnu ar y dei. Hefyd, mae gan belenni o wahanol brennau meddal wahanol nodweddion.
  • Fe all fod ar ffurf alldoriadau (off-cuts) a gweddillion pren solid eraill yn ogystal a naddion, sglodion a blawd llif. Ac eithrio blawd llif, o bosib, dylid prosesu'r cyfan trwy felin morthwylio a/neu rwygwr.
  • Cofiwch, mae ffurf y deunydd (rhwygiadau garw, blawd llif man ayb) yn gallu effeithio ar y gallu i gynhyrchu pelenni da.
  • Dylai fod o bren solid (yn hytrach na chyfansoddion fel bwrdd sglodion).
  • Ni ddylai fod wedi cael ei drin gyda thriniaethau sy'n cynnwys metelau trwm neu halogenau. Yn gyffredinol, fwy na thebyg y bydd pren palet, sydd heb ei beintio, yn iawn ond mae'n rhaid cael gwared ar hoelion a blociau cornel byrddau sglodion.
  • Os oes rhisgl (bark) yn y deunydd, fe fydd yn rhoi cynnwys lludw uwch (ac efallai y gall wneud i'r dei dreulio). Efallai na fydd cynnwys lludw uchel yn gwneud gwahaniaeth, gan ddibynnu pa safon yr ydych yn ei dymuno ar gyfer y pelenni ac a yw'r system hylosgi yn gallu ymdopi gydag ef. Efallai y bydd angen ystyriaeth ofalus ar goed cyfan, gweddillion tocio, coedlannau cylchdro byr pren slab a chnydau ynni neu weddillion fferm sydd ddim yn bren.
  • Efallai y bydd gan rai rhywogaethau pren egsotig fel iroko gynnwys mwyn uchel ac fe fydd hyn yn arwain at lefelau lludw uwch.
  • Dylai'r symiau fod yn ddigon i sicrhau bod y felin yn gweithredu i'r eithaf (hy cannoedd o dunelli'r flwyddyn o leiaf, gan ddibynnu ar drwybwn y felin). Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw felin belenni sy'n cymryd ychydig fagiau'r wythnos gan yr echdynnwr llwch. Efallai y byddai'n werth ystyried bricetiwr bach yn lle.
  • Cyn ymrwymo, dylech weithio gyda gwnethuriwr y felin belenni i sicrhau y bydd y felin yn prosesu eich deunydd yn foddhaol.


    Cynnwys Lleithder Deunyddiau Crai

  • Mae hyn yn bwysig iawn. Dywedir mai'r hyn sy'n arferol yn y diwydiant ar gyfer pelenni yw 15% fesul pwysau. Rydyn ni wedi defnyddio ein melin ar bren gyda chynnwys lleithder rhwng 9 a 18% ac wedi ychwanegu olew llysiau a/neu ddwr neu ager os oes angen, i hwyluso'r broses o wneud pelenni.
  • Mae sychu deunyddiau sydd a chynnwys lleithder uchel, fel gweddillion tocio, gweddillion teneuo a choed cyfan (mae pyrwydden newydd ei thorri yn gallu cynnwys dros 60% o ddwr) yn gallu bod yn broses ddrud, yn nhermau'r defnydd o ynni a chostau cyfalaf yr offer.
  • Felly dylid sychu pren mewn odyn neu ei sychu'n dda iawn yn yr aer.


  • Cysondeb Deunyddiau Crai

  • Fe fydd y broses o gynhyrchu pelenni yn haws gyda chyflenwad cyson o ddeunydd sy'n gyson iawn (o ran rhywogaeth, lleithder a ffurf ffisegol).
  • Mae'r felin Farm Feed Systems yr ydyn ni wedi bod yn ei defnyddio yn gallu creu pelenni o amrywiaeth dda o ddeunyddiau. Ond, mae angen newid y paramedrau gweithredu wrth drin gwahanol ddeunyddiau er mwyn sicrhau bod ansawdd y pelenni'n gyson. Fe allai hyn olygu mwy o gostau llafur - costau y gellid eu hosgoi trwy awtomeiddio'r offer mewn ffordd 'ddeallus'.
  • Un ateb fyddai sicrhau rhyw ffordd o wahanu'r hyn sy'n cael ei fwydo (pinwydd ar un diwrnod, deri'r diwrnod canlynol ayb)


    Y Farchnad ar gyfer Pelenni

  • Fwy na thebyg mai'r ystyriaethau pwysicaf i unrhyw un sydd am gynhyrchu pelenni yw sut a ble y byddant yn cael eu defnyddio neu werthu.
  • Os ydych yn bwriadu eu defnyddio eich hun i wresogi, yna gellir cyfrifo'r economeg yn nhermau'r tanwydd yr ydych yn ei arbed a gwariant cyfalaf ar wresogyddion/boeleri newydd.
  • Yn gyffredinol, mae'n siwr y byddwch yn cynhyrchu llawer mwy o belenni nag y gallwch eu defnyddio, felly fe fydd angen i chi ddod o hyd i farchnad i adennill eich costau. Ar hyn o bryd (Mai 2006) , pris cyfwerth olew'r pelenni yw £160 y dunnell. Efallai y gallai pelenni mewn bagiau llai ddenu ddwywaith y pris yma.
  • Wrth greu pelenni ar raddfa fach, rhaid bod yn ofalus iawn i sicrhau elw. Os oes rhaid talu am ddeunyddiau crai, fe fydd yn bwyta i mewn i'r elw, felly mae gwneud pelenni o ddeunyddiau gwastraff sy'n rhad ac am ddim neu y byddai'n costio'n uchel i gael eu gwared fel arall (cludiant, tirlenwi) yn syniad deniadol.
  • Erbyn hyn, mae'r farchnad belenni yn tyfu, ac, mae'n bosib dadlau y byddai'n tyfu'n gyflymach petai mwy o opsiynau cyflenwad ar gael. Dylech siarad a chyflenwyr stofiau a boeleri pelenni.
  • Mae angen ystyried safonau pelenni. Mae yna safonau Ewropeaidd y maen nhw'n ystyried eu mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig, er nad ydyn nhw'n orfodol. Mae'r Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy (Renewable Energy Association), sydd nawr yn uno gyda Chlwb Pelenni Prydain (British Pellet Club), a'r Sefydliad Ynni Cenedlaethol (National Energy Foundation) yn gallu helpu. Fe fydd pelenni pren o ansawdd isel yn niweidio eich enw da chi (a systemau bwydo boeleri). Mae stofiau a boeleri pelenni domestig yn gallu gofyn llawer o ran ansawdd ble mae rhai boeleri diwydiannol yn gallu maddau ynghynt.


    Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag David Jenkins yn Coed Cymru, 01686 650777
    (Neu gweld y dudalen Staf am gyfeiriadau a rhif ffon swyddogion).


    Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
    Tregynon, Y Drenewydd
    Powys, SY16 3PL
    Ffôn 01686 650 777