Lloriau strip yw'r cynnyrch delfrydol ar gyfer cael y mwyaf o'r defnydd o stribedi tenau o bren caled diamedr bach a stoc a dorrir fel sgil gynnyrch boncyffion mwy o faint. Mae'r holl rywogaethau pren caled cyffredin ar gael felly peidiwch a meddwl am dderw yn unig, da chi.
Mae onn, ffawydd a sycamorwydd hefyd ar gael yn barod, ac, ar gyfer prosiectau arbennig, gellir cael hyd i bren bedw, ceirioswydd, gwern a chastanwydd. 19mm yw'r trwch arferol ar gyfer lloriau sy'n dal llwythi ond mae yna droshaenau 12+9mm ar gael hefyd. Mae nifer o wneuthurwyr yn gallu sandio a rhoi lacer ar y stribedi yn y ffatri. Gweler eu gwefannau nhw am fwy o fanylion Tudalen Dolenni Cyswllt
Mae nifer o wneuthurwyr o Gymru yn arbenigo mewn cyflenwi a gosod lloriau pren caled. Tudalen Dolenni Cyswllt Mae byrddau llydan yn gwerthu am bremiwm er eu bod nhw'n dueddol o grebachu a chamdroi. I gael y ddel orau, holwch am fyrddau cul, graddau cymeriad a pheidiwch a meddwl am dderw yn unig!!
Am wybodaeth bellach, cysylltwch a David Jenkins yn Coed Cymru, 01686 650777
(NEU gweler Tudalen staf am gyfeiriadau e-bost a rhifau ffon swyddogion).
|