Mae'r Ty Unnos yn hen draddodiad Cymreig, ac mae yna draddodiadau tebyg yn hanesion gwerin ardaloedd eraill o Brydain.
Wrth fynd yn ol i'r ail ganrif ar bymtheg, roedd rhai'n credu, petai person yn gallu adeiladu ty ar dir comin mewn un nos, yna roedd y tir yn eiddo iddyn nhw fel rhydd-ddaliad. Fersiynau eraill o'r traddodiad hwn oedd fod yn rhaid cael tan yn llosgi yn yr aelwyd erbyn y bore canlynol, neu y byddai'r sgwatiwr yn gallu ymestyn ei dir o amgylch y ty y pellter y gallai daflu bwyell o bedair cornel y ty.

Er nad oedd gan y Ty Unnos unrhyw statws yn ol Cyfraith Gwlad Lloegr bryd hynny, mae yna beth traddodiad o drafodaethau cyfreithiol ynghylch y pwynt ble y byddai tir a feddianwyd gan sgwatwyr heb deitlau yn cael ei ystyried fel eiddo cyfreithlon. Efallai fod gan y gred chwedlonol hon ryw gysylltiad ag arferion gwerin go iawn ac arferion go iawn sgwatwyr a fyddai'n llechfeddiannu tir comin neu ddiffaith. Efallai y byddai'r traddodiad wedi rhoi'r ymdeimlad i sgwatwyr fod eu gweithrededd yn gyfreithlon yn ol cod cyfraith hyn a oedd yn mynd law yn llaw gyda gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol.
Mae yna lefydd yng Nghymru sydd yn dai unnos yn ol chwedlau lleol e.e. Ty Hyll yn Eryri. Efallai fod y rhain, mewn gwirionedd, yn dai a adeiladwyd yn wreiddiol gan sgwatwyr, gan ddefnyddio defnyddiau a oedd ar gael yn lleol. Mae'n ymddangos fod nifer o'r chwedlau hyn yn cael eu trosglwyddo heb ystyried traddodiad ehangach y ty unnos ac efallai eu bod yn cynnwys manylion darluniadwy ar sail amrywiadau ar y traddodiadau uchod. Yn gyffredinol, mae'r chwedlau hyn yn son am aelod blaenllaw o'r gymdeithas leol sy'n betio gyda theulu sydd heb dir, os ydynt yn gallu codi ty mewn un nos a diwrnod, yna mae croeso iddynt gadw'r ty. Efallai fod rhai fersiynau o'r chwedlau hyn yn pwysleisio y gallai'r teulu dwyllo a chael y llaw uchaf ar y ffigwr awdurdodol hunanfodlon trwy adeiladu cwt bach iawn neu trwy adeiladu aelwyd a simnai.
Ty Unnos ar gyfer yr 21ain Ganrif
Mae dulliau arloesol o adeiladu gyda phren yn gyffredin yn Sgandinafia, ble mae yna ddigonedd o bren o ansawdd uchel. Mae yna nifer o systemau adeiladu parod ('prefab') pren ar gael, sy'n defnyddio prennau meddal Baltig a Sgandinafaidd. Mae'r rhan fwyaf yn banelau saerniol parod. Mae'r panelau'n cael eu trafod yn fecanyddol a'u gosod at ei gilydd ar y safle, i ffurfio cragen saerniol gydag inswleiddio, gwasanaethau a chladin allanol wedi'i osod ar arwynebau allanol y muriau.

Mae'r systemau pren arloesol hyn yn dechrau cael effaith ar farchnad y Deyrnas Unedig oherwydd bod mwy a mwy o yrrwyr gan y llywodraeth tuag at adeiladu oddi ar y safle. Ond, mae'r holl systemau hyn yn defnyddio prennau meddal wedi eu mewnforio, yn hytrach na phren lleol.
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Wood Knowledge Wales wedi ariannu Coed Cymru, Ysgol Bensaerniaeth Cymru a Phrifysgol Cymru, Bangor, i ddatblygu system dai fforddiadwy sy'n perfformio'n uchel, ar sail priodweddau pren sy'n cael ei dyfu gartref.
Er mai sbriws a gynigir, fe allai'r system ddefnyddio graddau a rhywogaethau pren amrywiol.
Mae'r broses yn broses wneuthurio y gellir ei haddasu, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer marchnad lafur ganolog neu fenter fach.
Mae'r system Ty Unnos yn system adiol, fodwlar y gellir ei haddasu'n sylweddol ac mae'n gallu creu amrywiaeth o fathau o dai, a meintiau, ar sail pedwar modiwl safonol.
Mae'r system yn seiliedig ar becyn syml, safonol o rannau, ar sylfaen grid 600mm sylfaenol.
Mae'r system yn defnyddio pren lleol mewn hydoedd safonol, sydd ar gael yn hwylus, i greu system dai syml sy'n addas ar gyfer hunan-adeiladu neu adeiladu gyda chymorth.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag David Jenkins yn Coed Cymru, 01686 650777
(Neu gweld y dudalen Staff am gyfeiriadau a rhif ffon swyddogion).
Coed Cymru, Yr Hen Felin Lifio,
Tregynon, Y Drenewydd
Powys, SY16 3PL
Ffon 01686 650 777
|