Ttrawsffurfio adnodd sydd wedi'i danbrisio yn gynnyrch sydd a mwy o werth
Yng nghoetiroedd llydanddail Cymru, mae yna nifer dda o goed sydd a diamedr bach (diamedr o 6" - 12") sy'n cael eu cynaeafu'n gynaliadwy, neu a fyddai'n medru cael eu cynaeafu'n gynaliadwy, er mwyn gwella ansawdd y coetir.
Y ddirnadaeth yw mai bach iawn yw gwerth y rhain, ac yn gyffredinol maent yn cael eu gwasgu neu eu defnyddio fel coed tan, neu'n aros heb eu cynaeafu.
Yn Coed Cymru rydym wedi helpu datblygu dulliau o felino'r boncyffion, sy'n rhoi byrddau safonol o 4" x 1", sy'n 4' o hyd yn gyffredinol, ac sydd o ansawdd cymysg.
Gan nad yw'r dimensiwn yma nac ansawdd y pren yn apelio at ddiwydiannau traddodiadol sy'n defnyddio pren, roedd angen datblygu ffyrdd o ddefnyddio cyflenwadau safonol y nod oedd ei drawsffurfio'n gynnyrch sydd a gwerth uwch na choed wedi'i wasgu neu goed tan.
Er bod lloriau stribed o hyd byr wedi profi'n fector delfrydol a masnachol llwyddiannus ar gyfer pren, roedd yna deimlad bod yna botensial i'w ddefnyddio mewn amrywiaeth ehangach o gynnyrch gan gynnwys cynnyrch mwy soffistigedig ac efallai mwy o gynnyrch gyda mwy o werth.
I'r perwyl yma, rydym wedi creu system o adeiladu gan ddefnyddio cydrannau sy'n cloi at ei gilydd ac y'n ffurfio proffiliau peirianneg syml sydd ag ymddangosiad solid ac sy'n gryf ond yn gymharol ysgafn. Daethpwyd i adnabod y rhain a'r cynnyrch gorffenedig fel Yr Ongl Gymreig.
Nodwedd bwysig yw fod y cynnyrch yn syml i'w gwneuthurio a gellir defnyddio peiriannau cost isel. Felly maent yn ddelfrydol, nid yn unig ar gyfer gwneuthurwyr sefydledig ond hefyd ar gyfer ffermwyr sy'n dymuno arallgyfeirio a gweithwyr gweithdai cysgodol sydd, efallai, ddim a sgiliau uchel mewn gwaith pren.
Datblygwyd cyfres o ddodrefn - ar gyfer y swyddfa yr ardd, y gegin, y gweithdy a'r ystafell wely yn ein gweithdy ni ein hunain ac mewn cydweithrediad a'r gwneuthurwyr. Cafodd y rhain dderbyniad da gan y cyhoedd mewn sioeau ac arddangosfeydd Coed Cymru ac mae gwneuthurwyr eisoes wedi dechrau eu defnyddio.
Mae menter yr Ongl Gymreig yn annog arfer da mewn coetiroedd, incwm ar gyfer y rheiny sy'n tyfu ac yn prosesu pren a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer grwpiau o'r gymdeithas sydd o dan anfantais. Rydym yn rhagweld y bydd yr Ongl Gymreig yn dod yn nod masnach ar gyfer diwydiant pren caled sydd wedi'i adfywio yng Nghymru, ond am nawr, digon yw bodloni diffiniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Datblygu Cynaliadwy yn llwyr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu cynnyrch Ongl Gymreig, defnyddio pren o Gymru neu wneuthurio cynnyrch Ongl Gymreig, mae croeso i chi gysylltu a ni drwy'r e-bost ar - coedcymru@coedcymru.org.uk
neu ffonio Andy Stewart, Coed Cymru ar 01686 650777
|