Ffram Ffenestr Gasment o Bren Caled wedi'i Lamineiddio
Mae Coed Cymru wedi datblygu system newydd a gwreiddiol o gynhyrchu fframiau ffenestr casment gan ddefnyddio pren o goed dimensiwn bach. Mae'n cydymffurfio a gofynion ffenestri safonol a'r rheoliadau gwydr diweddaraf ac mae wedi'i phrofi gan TRADA ar gyfer gwrthsefyll y tywydd.
- Caiff y ffram a'r sash eu hadeiladu mewn un cam trwy lamineiddio cydrannau sydd wedi eu torri ymlaen llaw mewn jig addas.
- Caiff uniadau, rabedi a mowldinau eu creu'n awtomatig oherwydd dimensiynau'r cydrannau.
- Gellir gweithio'r rhigolau morter, rhigolau diddos a sel ar ol eu rhoi at ei gilydd
- Dim ond pedwar gwahanol fath o adrannau o gymalau sydd: penderfynir ar eu hyd trwy ddefnyddio fformwlau syml ar sail uchder a lled y ffenestr. Bydd y fformwlau hyn hefyd yn rhoi'r gosodiadau ar gyfer y jig sy'n rhoi'r cyfan at ei gilydd.
- Datblygwyd ffenestr sash bocs hefyd mewn cydweithrediad a gwaith saer James Ratford Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro.
Manteisio y system ffenestr yma
| - Defnyddir pren bach,
- Cynhyrchir llai o wastraff fel llif pren a siafins
- Mae lamineiddio'n golygu sefydlogrwydd da
- Gallai fod llai o gamau prosesu
- Hyblygrwydd ar gyfer gwahanol feintiau
- Nid oes angen lefel uchel o sgil
- Rhestr dorri gyfrifiadurol
- Gellir cynhyrchu mewn unrhyw swm
- Ceir cynnyrch deniadol o ansawdd uchel
- Mae'n cydymffurfio a'r rheoliadau effeithlonrwydd ynni newydd
| Cyfleoedd ar gyfer y Dyfodol
Fodd bynnag, os ydych yn saer sy'n chwilio am gyfleoedd newydd, efallai y byddwch am wneud fframiau yn yr arddull hwn. Gallwn ddarparu lluniau manwl a gwybodaeth arall.
Os ydych yn bensaer neu'n adeiladwr sydd a phrosiect penodol y gellir ei gyfoethogi gyda'r fframiau ffenestr pren caled hyn, yna rhowch wybod i ni.
Siaradwch a'ch swyddog Coed Cymru lleol neu ffoniwch Coed Cymru ar 01686 650777
(Neu gweld y dudalen Staf am gyfeiriadau a rhif ffon swyddogion).
Nawdd ar gyfer y Prosiect: ADC (Awdurdod Datblygu Cymru),
WWF (Cronfa natur Byd-eang),
RETEX (EU),
CC (y Comisiwn Coedwigaeth),
CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)
|